Neidio i'r cynnwys

San Carlos de Bariloche

Oddi ar Wicipedia
San Carlos de Bariloche
Mathbwrdeistref, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth112,887, 135,755 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1902 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
St. Moritz, Aspen, La Massana, Puerto Varas, Sestriere, Osorno, Puerto Montt, Queenstown, L'Aquila Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTalaith Río Negro Edit this on Wikidata
SirTalaith Río Negro Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Arwynebedd220.27 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr794 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.15°S 71.3°W Edit this on Wikidata
Cod postR8400 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nhalaith Río Negro, yr Ariannin, yw San Carlos de Bariloche, sy'n cael ei adnabod fel Bariloche fel arfer. Fe'i lleolir wrth droed mynyddoedd yr Andes, ac fe'i hamgylchynnir gan lynoedd (Nahuel Huapi, Gutiérrez Lake, Moreno Lake a Mascardi Lake) a mynyddoedd (Tronador, Cerro Catedral, Cerro López). Mae'n enwog am sgïo a thwristiaeth, chwaraeon dŵr, mynydda a dringo. Mae Cerro Catedral yn un o'r canolfannau sgïo pwysicaf yn Ne America.

Daw'r enw Bariloche o'r gair Mapudungun Vuriloche sy'n golygu "pobl o du ôl y mynydd" (furi = tu ôl, che = pobl). Defnyddiwyd y llwybr Vuriloche gan y Poyas i groesi'r Andes ac fe'i gadwyd yn gyfrinach wrth yr offeiriaid Ewropeaidd am gyfnod hir.

Twristiaeth

[golygu | golygu cod]

Twristiaeth cenedlaethol a rhyngwladol yw prif weithgarwch economaidd Bariloche, a hynny trwy gydol y flwyddyn. Ceir y prif ganolfan sgïo yn Cerro Catedral. Yn ystod yr Haf, gwelir torheulwyr ar draethau fel Playa Bonita a Villa Tacul ac ambell unigolyn yn nofio yn y llynoedd (sydd â dŵr oer trywy gydol y flwyddyn oherwydd yr eira toddedig.) Mae'r diwydiant pysgota hefyd yn atyniad poblogaidd. Bariloche yw'r ddinas fwyaf yn Ardal y Llynoedd Mawrion, ac fe'i ddefnyddir gan nifer o dwristiaid fel man cychwyn ar gyfer tieithiau i nifer o lefydd eraill. Mae dringo yn y mynyddoedd hefyd yn weithgaredd poblogaidd. Mae'r ddinas yn enwog am ei siocledi hefyd.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]