San Carlos de Bariloche
![]() | |
Math | bwrdeistref, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 112,887 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | St. Moritz, Aspen, Colorado, La Massana, Puerto Varas, Sestriere, Osorno, Puerto Montt, Queenstown, L'Aquila ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Talaith Río Negro ![]() |
Sir | Talaith Río Negro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 220.27 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,093 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 41.15°S 71.3°W ![]() |
Cod post | R8400 ![]() |
![]() | |
Dinas yn Nhalaith Río Negro, yr Ariannin, yw San Carlos de Bariloche, sy'n cael ei adnabod fel Bariloche fel arfer. Fe'i lleolir wrth droed mynyddoedd yr Andes, ac fe'i hamgylchynnir gan lynoedd (Nahuel Huapi, Gutiérrez Lake, Moreno Lake a Mascardi Lake) a mynyddoedd (Tronador, Cerro Catedral, Cerro López). Mae'n enwog am sgïo a thwristiaeth, chwaraeon dŵr, mynydda a dringo. Mae Cerro Catedral yn un o'r canolfannau sgïo pwysicaf yn Ne America.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw'r enw Bariloche o'r gair Mapudungun Vuriloche sy'n golygu "pobl o du ôl y mynydd" (furi = tu ôl, che = pobl). Defnyddiwyd y llwybr Vuriloche gan y Poyas i groesi'r Andes ac fe'i gadwyd yn gyfrinach wrth yr offeiriaid Ewropeaidd am gyfnod hir.
Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Twristiaeth cenedlaethol a rhyngwladol yw prif weithgarwch economaidd Bariloche, a hynny trwy gydol y flwyddyn. Ceir y prif ganolfan sgïo yn Cerro Catedral. Yn ystod yr Haf, gwelir torheulwyr ar draethau fel Playa Bonita a Villa Tacul ac ambell unigolyn yn nofio yn y llynoedd (sydd â dŵr oer trywy gydol y flwyddyn oherwydd yr eira toddedig.) Mae'r diwydiant pysgota hefyd yn atyniad poblogaidd. Bariloche yw'r ddinas fwyaf yn Ardal y Llynoedd Mawrion, ac fe'i ddefnyddir gan nifer o dwristiaid fel man cychwyn ar gyfer tieithiau i nifer o lefydd eraill. Mae dringo yn y mynyddoedd hefyd yn weithgaredd poblogaidd. Mae'r ddinas yn enwog am ei siocledi hefyd.
Cyrchfan sgïo Cerro Catedral ym mis Gorffennaf