Salvador Garmendia
Salvador Garmendia | |
---|---|
Ganwyd | Salvador Garmendia Graterón 11 Mehefin 1928 Barquisimeto |
Bu farw | 13 Mai 2001 Caracas |
Man preswyl | Caracas |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur plant, colofnydd, nofelydd, sgriptiwr, cyfarwydd |
Arddull | nofel, stori fer |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Premio Juan Rulfo |
llofnod | |
Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr ffilm a theledu o Feneswela oedd Salvador Garmendia (11 Mehefin 1928 – 13 Mai 2001).
Roedd yn hanu o Barquisimeto yn nhalaith Lara yng ngorllewin Feneswela.
Ysgrifennodd y nofelau Los pequeños seres (1959), Día de cenizas (1963), Los habitantes (1968), ac El Capitán Kid (1988), gweithiau sy'n efelychu'r nouveau roman Ffrangeg o ran technegau'r adroddiant. Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Crónicas sádicas (1990) a Cuentos cómicos (1991). Yn ogystal â'i lyfrau ffuglen, mae'n nodedig am ysgrifennu sgriptiau telenovelas yn y 1970au. Ysgrifennodd hefyd y ffilmiau Fiebre (1975), Juan Tapocho (1977), a La Gata Borracha (1983). Enillodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1972, a Gwobr Juan Rulfo yn 1989 am ei lyfr Tan desuda como una piedra.[1]
Bu farw o gymhlethdodau o ganser a chlefyd y siwgr yn Caracas yn 72 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Raymond Leslie Williams, "Garmendia, Salvador (1928–2001)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Medi 2019.
- ↑ (Saesneg) "Salvador Garmendia Dies at 72", Associated Press (14 Mai 2001). Adalwyd ar 3 Medi 2019.