Sakai
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
![]() | |
Math |
dinasoedd dynodedig Japan ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
827,971 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Osami Takeyama ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+09:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Dinas Wellington ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Osaka ![]() |
Gwlad |
Japan ![]() |
Arwynebedd |
149.99 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
34.57°N 135.48°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Dinas Sakai ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Osami Takeyama ![]() |

Neuadd y ddinas ger Gorsaf Sakaihigashi
Dinas a phorthladd fawr yn Japan yw Sakai (Japaneg: 堺市 Sakai-shi) a leolir yn nhalaith Osaka ar ynys Honshu.
Ers y canoloesoedd, mae Sakai wedi bod yn un o borthladdoedd mwyaf Japan o ran maint a pwysigrwydd. Wedi ail-drefnu trefi talaith Osaka yn 2005, Sakai bellach yw 14eg dinas mwyaf Japan o ran poblogaeth gyda poblogaeth o tua 830,000.[1] Daeth Sakai i fod yn ddinas dynodedig ar 1 Ebrill 2006.
Wardiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan ddinas Sakai 7 o wardiau (Japaneg: 区, ku):
- Sakai-ku, 堺区 - canolfan weinyddol
- Kita-ku, 北区
- Nishi-ku, 西区
- Naka-ku, 中区
- Higashi-ku, 東区
- Mihara-ku, 美原区
- Minami-ku, 南区
Tomenni claddu[golygu | golygu cod y dudalen]

Daisen Kofun, Sakai o'r awyr
Mae Sakai yn enwog am ei thomenni claddu enfawr siap twll clo. Gelwir yr rhain yn kofun ac maent yn dyddio o'r 5g. Mae'r fwyaf ohonynt, Daisen Kofun yn cael ei adnabod fel bedd yr Ymerawdwr Nintoku. Dyma fedd mwyaf y byd o ran arwynebedd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Sakai City profile. Accessed 2007-03-13. Er fod y cyfeirnod yn datgan Sakai fel 14eg dinas mwyaf poblog Japan, nid yw hyn yn cynnwys Tokyo.