Saeran
Saeran | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 13 Ionawr |
Sant ac esgob Cymreig cynnar oedd Saeran, sy'n gysylltiedig gydag un eglwys yn unig: Eglwys Sant Saeran ym mhentref Llanynys, tua cilometr o bentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, ger Rhuthun. mae ei ŵyl ar y 13eg o Ionawr. Ni wyddys llawer amdano bellach ond mae ei enw hefyd i'w gael yn yr enw 'Ffynnon Sarah' (a nodwyd gan Edward Lhwyd fel "Saeran") ym mhentref Derwen.
Mae'n bosibl mai Geraint Saer o Iwerddon oedd ei dad. Ceir cyfeiriad ato yn y 'Martyrologies of Tallaght & Donegal', a dyna ni. Ni cheir fawr mwy amdano, mae'n bosib gan mai enw Brythoneg sydd ganddo, ac mai yng Nghymru felly y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd.
Yn yr eglwys ceir carreg chwech-ochrog, ac arni ffigwr o esgob meitrog sydd, fwy na thebyg, yn cynrychioli Sant Saeran ei hun. Ymddengys fod y ffigwr bychan, gyda’i ffon fugail yn ei law, yn sefyll ar ben arth ac ar ochr arall y garreg y mae llun o’r croeshoeliad. Hyd yn ddiweddar, safai yn y fynwent, o bosib yn dynodi bedd y sant neu gysegrfan: dywedir fod y garreg hon yn dyddio o’r 14g, ond gallai fod yn llawer hŷn na hyn.[1]
-
Sant Saeren, Llanynys
-
Y garreg, gyda llun o Saeren arni
-
Y garreg, o fewn yr eglwys
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dinbych Canoloesol; Archifwyd 2015-07-27 yn y Peiriant Wayback Cyngor Sir Ddinbych; adalwyd 19 Gorffennaf 2015.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Llanynys Church, Past and Present gan y Parch L. Parry Jones; 1988.