Sadwrn (duw)
Jump to navigation
Jump to search
Duw Rhufeinig yn tra-arglwyddiaethu dros amaethyddiaeth a'r cynhaeaf oedd Sadwrn (Lladin: Saturnus). Roedd yn cyfateb i Cronos ym mytholeg Roeg.
Gwraig Sadwrn oedd Ops, ac roedd Sadwrn yn dad i Ceres, Iau, a Veritas, ymysg eraill. Roedd teml Sadwrn yn Rhufain ar y Forum Romanum a oedd yn cynnwys y Drysorfa Frenhinol. O Sadwrn y daw'r enw Dydd Sadwrn (dies Saturni).