Rubens Barrichello
Gwedd
| Rubens Barrichello | |
|---|---|
| Ganwyd | Rubens Gonçalves Barrichello 23 Mai 1972 São Paulo |
| Dinasyddiaeth | Brasil |
| Galwedigaeth | gyrrwr ceir cyflym, cyflwynydd chwaraeon, cyflwynydd teledu, gyrrwr Fformiwla Un |
| Taldra | 172 centimetr |
| Pwysau | 66 cilogram |
| Partner | Paloma Tocci |
| Plant | Eduardo Barrichello, Fernando Barrichello |
| Gwobr/au | Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal |
| Gwefan | http://barrichello.com.br |
| Chwaraeon | |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Frasil yw Rubens Gonçalves Barrichello (ganed 23 Mai 1972 yn Sao Paulo).
Yn dilyn tîm Honda yn cael eu gwerthu i Brawn GP, cafodd Barrichello ei enwi fel cyd yrrwr Jenson Button ar gyfer tymor 2009. Barrichello yw'r gyrrwr gyda'r 4ydd nifer o bwyntiau uchaf yn hanes y gamp. Gyrrodd Barrichello dros Ferrari rhwng 2000 a 2005 gan fwynhau llwyddiant cymhedrol, yn cynnwys gorffen yn ail yn y bencampwriaeth yn 2002 a 2004. Ar ôl i Michael Schumacher ymddeol yn 2006, gwnaeth hyn Barrichello y gyrrwr mwyaf profiadol ar y grid. Ar ôl Grand Prix Twrci yn 2008, Barrichello oedd y gyrrwr mwyaf profiadol yn hanes y gamp. Yn 2009, Barrichello yw'r unig yrrwr ar y grid i fod wedi rasio yn erbyn Ayrton Senna ac Alain Prost.