Rose Ausländer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rose Ausländer
Rose Ausländer (1914).jpg
Ganwyd 11 Mai 1901 Edit this on Wikidata
Chernivtsi Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata (86 oed)
Düsseldorf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Chernivtsi Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Andreas Gryphius, Ida-Dehmel-Literaturpreis, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Rose Auslaender.jpg

Bardd Iddewig a sgwennai mewn Almaeneg oedd Rose Ausländer (11 Mai 1901 - 3 Ionawr 1988).

Fe'i ganed yn Chernivtsi, gorllewin yr Wcráin ar 11 Mai 1901 a bu farw yn Düsseldorf, Nordrhein-Westfalen, yr Almaen. Bu'n byw mewn ardal cythryblus iawm, yn enwedig i Iddewon, ardal a fu yng ngwladwriaeth Awstria-Hwngari (1867 hyd 1918 ), Teyrnas Rwmania (1881-1947) ac yna'r Undeb Sofietaidd. [1][2][3][4][5]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Almaeneg oedd iaith y teulu. Roedd ei thad Süssi Scherzer (1871–1920) yn dod o dref fechan ger Czernowitz, yn ardal Bukovina, a ganwyd ei mam Kathi Etie Rifke Binder (1873–1947) yn Czernowitz i deulu a siaradai Almaeneg. O 1907 i 1919 aeth i'r ysgol yn Czernowitz. Yn 1916 ffodd ei theulu rhag Byddin Rwsia, i Fienna, ond dychwelodd i Cernauti, Bukovina ac a ddaeth yn rhan o Deyrnas Rwmania.[6] [7]

Yn 1919, dechreuodd astudio llenyddiaeth ac athroniaeth yn Cernauti. Datblygodd ddiddordeb gydol oes yn yr athronydd Constantin Brunner. Ar ôl i'w thad farw ym 1920 gadawodd y brifysgol.

Priodi ac ymfudo[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1921, ymfudodd i Unol Daleithiau America gyda'i chyfaill prifysgol, a'i darpar ŵr, Ignaz Ausländer. Yn Minneapolis, bu'n gweithio fel golygydd y papur newydd Almaeneg Westlicher Herold a chyfranodd i'r antholeg Amerika-Herold-Kalender nifer o gerddi. Yn 1922, symudodd gydag Ausländer i Ddinas Efrog Newydd, lle priododd y ddau ar 19 Hydref, 1923. Gwahanodd hi ac Ausländer dair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn 25 oed, ond cadwodd ei enw olaf (ei chyfenw). Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1926.

Rhwng 1926-28 dychwelodd adref i Cernauti i ofalu am ei mam gwael. Yno, cyfarfu â'r graffolegydd Helios Hecht, a ddaeth yn bartner iddi. Yn 1928 aeth yn ôl i Efrog Newydd gyda Hecht. Cyhoeddodd gerddi yn y New Yorker Volkszeitung ac yn y papur dyddiol, sosialaidd Cernauti tan 1931.[8]:7

Yn 1931, dychwelodd i ofalu am ei mam eto, gan weithio i'r papur newydd Czernowitzer Morgenblatt tan 1940. Collodd ei dinasyddiaeth yn yr Unol Daleithiau erbyn 1934, gan nad oedd wedi bod yn yr Unol Daleithiau ers dros 3 blynedd. Gwahanodd oddi wrth Hecht y flwyddyn honno: 1936 a gadawodd i Bucharest.

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1939, cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Der Regenbogen (Yr Enfys) gyda chymorth ei noddwr, yr awdur Alfred Margul-Sperber. Er i feirniaid ei dderbyn yn ffafriol, ni chafodd ganmoliaeth gan y cyhoedd. Cafodd y rhan fwyaf o'r llyfrau eu dinistrio pan feddiannodd yr Almaen Natsïaidd Cernauti yn 1941.[9]

O Hydref 1941–44, bu'n gweithio fel labrwr-gorfodol (Zwangsarbeiter) yn y ghetto yn Cernauti. Arhosodd yno gyda'i mam a'i brawd am ddwy flynedd, a blwyddyn arall ar ffo, yn cuddio rhag y Natsiaid, rhag iddi gael ei danfon i wersylloedd crynhoi'r Natsïaid.[8]

Yn 1963, treuliodd amser yn Fienna, lle cyhoeddodd ei llyfr cyntaf ers 1939. Canmolwyd ei gwaith, Blinder Sommer (haf dall) yn frwdfrydig.[8][9]

Ysgrifennodd dros 3,000 o gerddi, ac yn eu plith:

  • Der Regenbogen, 1939.
  • Blinder Sommer, 1965.
  • Brief aus Rosen
  • Das Schönste
  • Denn wo ist Heimat?
  • Die Musik ist zerbrochen
  • Die Nacht hat zahllose Augen
  • Die Sonne fällt
  • Gelassen atmet der Tag
  • Hinter allen Worten
  • Sanduhrschritt
  • Schattenwald
  • Schweigen auf deine Lippen
  • Treffpunkt der Winde
  • Und nenne dich Glück
  • Wir pflanzen Zedern
  • Wir wohnen in Babylon
  • Wir ziehen mit den dunklen Flüssen'
  • Herbst in New York'
  • An ein Blatt
  • Anders II

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 82586554, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 10 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  6. Rose Ausländers Leben und Dichtung (Rose Ausländer life and poetry). "Ein denkendes Herz, das singt" ("Calon y meddwl sy'n canu")]
  7. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 2 Ebrill 2015Wikidata Q36578 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 2 Ebrill 2015Wikidata Q36578
  8. 8.0 8.1 8.2 Bolbecher, Siglinde; Kaiser, Konstantin (2002). "Rose Ausländer" (PDF). Lexikon der Österreichischen Literatur im Exil. (yn German). Universität Salzburg. p. 205. Cyrchwyd 11 Mai 2016.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  9. 9.0 9.1 "Rose Ausländer". Lyrikline.org. Literaturwerkstatt Berlin. n.d. Cyrchwyd 11 Mai 2016.