Ronnie Corbett

Oddi ar Wicipedia
Ronnie Corbett
LlaisRonnie Corbett BBC Radio4 Front Row 1 May 2011 b010tbkh.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylShirley, Gullane Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad yr Alban|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad yr Alban]] [[Nodyn:Alias gwlad yr Alban]]
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Frenhinol
  • Ysgol Uwchradd James Gillespie Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, ysgrifennwr, actor ffilm, actor llwyfan, perfformiwr cabaret, hedfanwr, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodAnne Hart Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Digrifwr ac actor Albanaidd oedd Ronald Balfour "Ronnie" Corbett, CBE (4 Rhagfyr 1930 – 31 Mawrth 2016) a gyd-weithiodd am ran helaeth o'i yrfa gyda Ronnie Barker yn y gyfres gomedi teledu The Two Ronnies. Daeth i amlygrwydd yn y rhaglen gomedi dychanol The Frost Report a gyflwynwyd gan David Frost yn y 1960au ac yn ddiweddarach yn y comediau sefyllfa Sorry! a No – That's Me Over Here!.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ronnie Corbett yng Nghaeredin yn 1930, yn fab i William Balfour Corbett (1898-1974), pobydd, a'i wraig Annie Elizabeth (née Main) Corbett (1900-1991) a anwyd yn Llundain.[1] Roedd ganddo frawd tua chwe mlynedd yn iau a chwaer deng mlynedd yn iau.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Corbett yr actores a'r ddawnswraig Anne Hart yn 1965; a ganwyd dwy ferch iddynt, yr actoresau Emma and Sophie Corbett. Roedd gan eu plentyn cyntaf, Andrew, nam ar y galon a bu farw, yn chwe mlwydd oed, yn Ysbyty St Thomas.[2] Roedd Corbett yn byw yn Shirley, Croydon, am sawl blwyddyn. Roedd ganddo ail gartref yn Gullane, East Lothian, yn yr Alban. Roedd yn cadw gwenyn a roedd ganddo gychod gwenyn yn ei gartref yn yr Alban.[3]

Roedd Corbett yn golffiwr a ymddangosodd mewn sawl digwydd enwogion a pro-amatur; yn 2009 fe wnaeth rhaglen ddogfen gyda Colin Montgomerie lle bu'r ddau yn chwarae yn Gleneagles.[4] Roedd yn gefnogwr brwd o griced, a roedd Corbett yn lywydd yr elusen criced Lord's Taverners (1982 a 1987).[5] Roedd yn cefnogi ei glwb pêl-droed lleol, Crystal Palace, a clwb ei dref gartref, Heart of Midlothian.[6]

Yn Awst 2014, roedd Corbett yn un o 200 ffigwr cyhoeddus a arwyddodd lythyr i The Guardian yn gwrthwynebu Annibynniaeth i'r Alban yn y cyfnod cyn refferendwm ar y mater yn Medi.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Corbett ar 31 Mawrth 2016, yn 85 gyda'i deulu o'i gwmpas.[8] Mae'n gadael gwraig a dau ferch. Canfuwyd ei fod yn dioddef o glefyd niwronau motor yn Mawrth 2015.[9][10]

Dywedodd y digrifwr John Cleese fod gan Corbett yr "amseru gorau" a welodd erioed, a dywedodd Hugh Laurie ei fod yn ddyn "hyfryd, dawnus". Cafwyd teyrnged gan y digrifwr Rob Brydon, oedd yn enwog am ddynwared Corbett, gan ddweud ei fod yn "un o'r mawrion, dyn mawr a ffrind mawr. Roedd yn un o'r bobl arbennig hynny" [11]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan
1952 You're Only Young Twice (film) Myfyriwr
1953 Rheingold Theatre Hwligan ifanc
1955 The Vise
1957 Sheep's Clothing Gwas
1963 The Saint Galwr
1966-1967 The Frost Report Amryw rannau
1967-1970 No – That's Me Over Here! Ronnie
1969 Hark at Barker
1970 Jackanory Adroddwr stori
1971-1973 Now Look Here Ronnie
1974 The Prince of Denmark Ronnie
1971-1987 The Two Ronnies Ei hun & Nifer o gymeriadau
1981-1988 Sorry! Timothy Lumsden
1994-1996 Small Talk Gwestai
1998 Timbuctoo Adroddwr &

Pob Cymeriad Heblaw Giant Squeak

1998 The Ben Elton Show Ei hun
2000 Cinderella ITV Panto Griselda (Un o'r Chwiorydd Hyll)
2004 The Keith Barret Show Ei hun gyda'i wraig
2004 Monkey Trousers Amryw rannau
2005 The Two Ronnies Sketchbook
2006 Extras Ei hun
2006 Little Britain Abroad Ei hun
2008 Love Soup Gordon Baxter
2009 Sarah Jane Adventures (Comic Relief) Llysgennad "Rani" Ranius/Slitheen
2009 Strictly Come Dancing Gwestai
2010 Ant and Dec's Push The Button Troslais
2010 The One Ronnie Ei hun
2011 Ronnie Corbett's Comedy Britain Ei hun
2013 Ronnie's Animal Crackers Ei hun

Ffilm[golygu | golygu cod]

Year Title Role
1952 You're Only Young Twice Myfyriwr
1956 Fun at St. Fanny's Chumleigh
1957 Rockets Galore! Drooby
1962 Operation Snatch Soldier (heb gydnabyddiaeth)
1967 Casino Royale Polo
1970 Some Will, Some Won't Herbert Russell
1970 The Rise and Rise of Michael Rimmer Cyfwelydd
1973 No Sex Please, We're British Brian Runnicles
1997 Fierce Creatures Reggie Sea Lions
2010 Burke and Hare Captain Tam McLintoch

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barratt, Nick (23 June 2006). "Family detective". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-08. Cyrchwyd 12 Ionawr 2008.
  2. 2.0 2.1 "Desert Island Discs with Ronnie Corbett". Desert Island Discs. 21 Hydref 2007. BBC. Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/factual/desertislanddiscs_20071021.shtml.
  3. Jackson, Peter (5 Awst 2009). "Is urban beekeeping the new buzz?". BBC. Cyrchwyd 22 Ionawr 2012.
  4. "Ronnie Corbett: golf". programmes.stv.tv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-20. Cyrchwyd 21 April 2010.
  5. "The Lord's Taverners". lordstaverners.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-30. Cyrchwyd 21 Ebrill 2010.
  6. "Comedian Ronnie Corbett launches Welsh Premier League". BBC Sport. 14 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Ionawr 2014.
  7. "Celebrities' open letter to Scotland – full text and list of signatories". The Guardian. London. 7 Awst 2014. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
  8. (Saesneg) Ronnie Corbett dies. 'The Independent' (31 Mawrth 2016).
  9. "Ronnie Corbett's devoted wife Anne reveals his secret battle with deadly motor neurone disease: Comedian was dignified to the end and 'never once grumbled' about his cruel illness". Daily Mail. 1 April 2016. Cyrchwyd 1 April 2016.
  10. "Ronnie Corbett, 'true great' of British TV comedy, dies aged 85". Guardian. 31 March 2016. http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2016/mar/31/ronnie-corbett-dies-aged-85. Adalwyd 1 April 2016.
  11. Turner, Lauren; Smith, Keily (31 March 2016). "Reaction to Ronnie Corbett death". Cyrchwyd 31 March 2016.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Corbett, Ronnie; Nobbs, David (2006). And It's Goodnight From Him ... Michael Joseph, Penguin. ISBN 0-7181-4964-5.CS1 maint: multiple names: authors list (link)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]