Ronald Gamarra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ronald Gamarra
RonaldGa.jpg
Ganwyd 10 Rhagfyr 1958 Edit this on Wikidata (59)
Lima Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd, academydd, cyfreithiwr, barnwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a gwleidydd o Beriw yw Ronald Álex Gamarra Herrera (ganwyd 10 Rhagfyr 1958) sy'n arbenigo mewn hawliau dynol. Mae'n un o'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli teuluoedd dioddefwyr Barricos Altos a La Cantuta yn erbyn cyn-Arlywydd y wlad Alberto Fujimori.[1]

Rhwng 2001 a 2004 ef oedd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol (ad hoc) Periw mewn achosion yn erbyn Fujimori a'i gynghorwr Vladimiro Montesinos. Roedd hefyd yn rhan o'r broses o esdraddodi'r cyn-Arlywydd yn ôl o Chile. Rhwng 1988 - 2000 ef oedd cyfarwyddwr Rhaglen Gyfreithiol yr Instituto de Defensa Legal. Mae'n sgwennu colofn wythnosol yn y Lima dyddiol sef La República ac yn darlithio ym mhrifysgol Universidad Mayor de San Marcos.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]