Robert Morris (diwydiannwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd Robert Morris ( - 1768) yn ddiwydiannwr o Bishop's Castle, Sir Amwythig, a brynodd waith copr yng Nglandŵr, Abertawe. Ei fab oedd Syr John Morris. Fe adeiladodd ar gyfer ei weithwyr y bloc o fflatiau cyntaf yng Nghymru, sef Castell Graig neu Gastell Morris Roedd y Castell yn lletya deugain teulu yn ogystal â theilwr a chrydd. Yn dilyn ei lwyddiant fe gododd blasty moethus ger Llangyfelach a'i alw'n Clasemont.[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Weledigaeth Hon - Hanes Bedyddwyr Treforus Densil Morgan Ysgol Ddiwinyddiaeth Prifysgol Cymru, Bangor 1995 Td 9