Rixon, Dorset

Oddi ar Wicipedia

Pentref yn Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Rixon. Lleolir 2 km i'r dwyrain o Sturminster Newton ar ffordd y B3091, ddim ymhell o lannau'r Afon Stour sydd troi oamgylch pentref ar ei ffordd i Christchurch. Daw'r enw Rixon o'r gair Hen Saesneg risc, sy'n golygu "brwyn", ac mae'n parhau i fodoli ar y ffurf Rix a Rex yn nhafodieithau Dorset, Gwlad yr Haf a Dyfnaint.[1]

Caiff y pentref ei wasanethu gan gwmni bysiau Damory Coaches, gyda gwasanaeth 369 rhwng Blandford Forum and Yeovil, a 309 rhwng Blandford Forum a Shaftesbury.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rixon Coat of Arms / Rixon Family Crest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-15. Cyrchwyd 2009-09-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am Dorset. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato