Rihanna
Rihanna | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw |
Rihanna, Ri, RiRi, Rihanna ![]() |
Ganwyd |
Robyn Rihanna Fenty ![]() 20 Chwefror 1988 ![]() Saint Michael ![]() |
Man preswyl |
Jamaica, 16ain bwrdeistref o Baris ![]() |
Label recordio |
Def Jam Recordings, Westbury Road Entertainment, Roc Nation ![]() |
Dinasyddiaeth |
Barbados ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, person busnes, actor, diplomydd, actor teledu, rapiwr, dylunydd ffasiwn ![]() |
Swydd |
ambassador to the United States ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth ddawns, cyfoes R&B, cerddoriaeth boblogaidd, Reggae, hip hop, cerddoriaeth dawns electronig ![]() |
Math o lais |
mezzo-soprano ![]() |
Prif ddylanwad |
Aaliyah ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Icon Award, Grammy Award for Best Urban Contemporary Album, Dyngarwr y Flwyddyn ![]() |
Gwefan |
http://www.rihanna.com ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Mae Robyn Rihanna Fenty (ganed 20 Chwefror 1988),[1] sy'n perfformio o dan yr enw Rihanna (ynganer /riːˈɑːnə/), yn gantores a model o Barbados. Fe'i ganed yn Saint Michael, Barbados, cyn iddi symud i'r Unol Daleithiau pan oedd yn un-ar-bymtheg oed, er mwyn dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth, o dan arweiniad y cynhyrchydd recordiau, Evan Rogers. Yn ddiweddarach, arwyddodd gytundeb gyda "Def Jam Recordings" ar ôl iddi gael clywediad gyda phennaeth y cwmni ar y pryd, Jay-Z.[2]
Yn 2005 rhyddhaodd Rihanna ei halbwm stiwdio cyntaf, "Music of the Sun", a aeth i ddeg uchaf y Billboard 200. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei hail albwm A Girl Like Me, a aeth i bump uchaf siart albymau Billboard, gan rhoi ei rhif un cyntaf iddi gyda'r sengl "SOS". Aeth trydydd albwm stiwdio Rihanna, Good Girl Gone Bad (2007), i rif dau y diart Billboard 200. Cafodd dri sengl a aeth i rhif un yn yr Unol Daleithiau, "Umbrella", "Take a Bow" a "Disturbia", yn ogystal a "Don't Stop the Music". Enwebwyd yr albwm am naw Gwobr Grammy. Mae Rihanna wedi gwerthu dros ddeuddeg miliwn o albymau yn fydeang yn ei gyrfa o bedair blynedd yn unig.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Rihanna » Biography. AllMusic. Adalwyd ar 2009-07-30
- ↑ Jay-Z's Picks: Teairra Mari, Rihanna and Ne-Yo. Shaheem Reid a Matt Paco. MTV News. Adalwyd ar 2009-06-06
|