Richard Thaler

Oddi ar Wicipedia
Richard Thaler
Thaler yn 2015
GanwydMedi 12, 1945 (72 oed)
East Orange, New Jersey, United States
MeysyddBehavioral finance
SefydliadauGraduate School of Management at the University of Rochester (1974–1978)
Johnson School of Management at Cornell University (1978–1995)
Booth School of Business at the University of Chicago (1995–present)
Thesis(1974)
Ymgynghorydd DoethuriaethSherwin Rosen
DylanwadauDaniel Kahneman
Herbert A. Simon
DylanwadauGeorge Loewenstein
Prif wobrauNobel Memorial Prize in Economic Sciences (2017)

Mae Richard H. Thaler (/ˈθlər//ˈθlər/; ganwyd 12 Medi 1945) yn economegwr Americanaidd ac yn Athro yn y Gwyddorau Ymddygiadol ym Mhrifysgol Chicago.

O bosibl, caiff ei adnabod yn well fel damcaniaethwr mewn ariannu ymddygiadol ynghyd a'i waith gyda Daniel Kahneman ac eraill mewn meysydd tebyg. Yn 2017, gwobrwyd ef a Gwobr Nobel yn y Gwyddorau Ymddygiadol am ei gyfraniad i economeg ymddygiadol.[1][2][3][4] Wrth ddyfarnu Thaler a'r Wobr Nobel, dywedodd y Royal Swedish Academy of Sciences fod ei gyfraniadau wedi adeiliadu pontydd rhwng asesiadau economeg a seicoleg o sut mae unigolyn yn gwneud dewisiadau. Dywedir bod ei ddarganfyddiadau empeiraidd a'i fewnwelediadau damcaniaethol wedi bod yn hollbwysig wrth greu ac ehangu maes economeg ymddygiadol.[5]

Ysgrifennodd Thaler, ar y cyd a Cass Sunstein llyfr dylanwadol Nudge: Improving Decisions About Health, Wealth, and Happiness (Yale University Press, 2008). Mae Nudge yn trafod sut gall sefydliadau cyhoeddus a phreifat helpu pobl i wneud dewisiadau gwell yn eu bywyd o ddydd i ddydd. "Mae pobl yn aml yn gwneud dewisiadau gwael - ac yn edrych yn ôl mewn dryswch!" Ysgrifenna Thaler and Sunstein. Bathodd Thaler a Sunstein y term 'pensaernio dewis'.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Appelbaum, Binyamin (October 9, 2017). "Nobel in Economics Is Awarded to Richard Thaler". The New York Times. Cyrchwyd October 11, 2017.
  2. Gauthier-Villars, David (October 9, 2017). "Nobel Prize in Economics Awarded to American Richard Thaler". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
  3. Keyton, David; Heintz, Jim (9 Hydref 2017). "American Richard Thaler wins Nobel Prize in Economics". USA Today. Associated Press. Cyrchwyd October 11, 2017.
  4. Tetlow, Gemma (October 9, 2017). "Richard Thaler awarded 2017 Nobel prize in economics". Financial Times. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
  5. Pollard, Niklas; Ringstrom, Anna (October 9, 2017). "We're all human: 'Nudge' theorist Thaler wins economics Nobel". Reuters. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
  6. Thaler, Richard H.; Sunstein, Cass R. (April 2, 2008). "Designing better choices". Los Angeles Times. Cyrchwyd October 11, 2017.