Richard Adams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Adams
Richard Adams 20081116.jpg
Ganwyd Richard George Adams Edit this on Wikidata
9 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Newbury, Berkshire Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata (96 oed)
Rhydychen Edit this on Wikidata
Man preswyl Newbury, Berkshire Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth awdur, nofelydd, sgriptiwr, awdur, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Florida
Gwaith nodedig Watership Down Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal Carnegie, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Daytime Emmy Award for Outstanding Morning Program Edit this on Wikidata

Roedd Richard George Adams, (9 Mai 1920-24 Rhagfyr 2016) yn nofelydd Seisnig[1].

Ganwyd Adams yn Wash Common ger Newbury, Berkshire yn fab i Evelyn George Beadon Adams, meddyg, a Lilia Rosa (née Button ei wraig)

Addysgwyd Adams yng Ngholeg Bradford, Berkshire, a Choleg Worcester, Rhydychen, lle graddiodd gyda gradd mewn hanes modem. Tua diwedd gyrfa yn y gwasanaeth sifil (1948-74) ysgrifennodd Adams Watership Down (1972), a enillodd iddo Fedal Carnegie a daeth yn werthwr rhyngwladol gorau; fe'i ffilmiwyd yn 1978. Mae Watership Down yn llyfr plant am gartref cwningod, sydd yn cynnwys elfennau epig a naratif sy'n apelio hefyd at oedolion. Fe'i olynwyd gan Shardik (1974) a The Plague Dogs (1977; wedi ei droi'n ffilm ym 1982), sy'n gwrthwynebu y ddefnydd o anifeiliaid mewn labordai ymchwil. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y nofelau The Girl in a Swing (1980), Maia (1984), a Traveller (1989); ysgrifennodd hefyd gasgliad o storïau byrion, The Iron Wolf (1980).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Assa Briggs (Gol) A Dictionary of 20th Century Biography BCA 1991
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.