Rhyfel Cosofo
Gwedd
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Dyddiad | Chwefror 1998 |
| Rhan o | Rhyfeloedd Iwgoslafia |
| Dechreuwyd | 27 Chwefror 1998 |
| Daeth i ben | 11 Mehefin 1999 |
| Lleoliad | Cosofo |
| Yn cynnwys | Aerial Battle over Valjevo |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/048jd |
| Quora | Kosovo-war |
Dechreuodd Rhyfel Cosofo ym 1998 gyda gwrthdaro rhwng lluoedd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia a Byddin Rhyddhau Cosofo. Rhwng 24 Mawrth a 11 Mehefin 1999, bomiodd NATO Iwgoslafia trwy Ymgyrch Grym Cynghreiriol. Cafodd bron i 1 miliwn o boblogaeth Cosofo, y mwyafrif ohonynt yn Albaniaid ethnig ond yn cynnwys Serbiaid lleol hefyd, ei dadleoli yn ystod y rhyfel, a llwyddodd y rhan fwyaf i ddychwelyd wedi i'r rhyfel ddod i ben.
Ystyrid Rhyfel Cosofo y rhyfel dyngarol cyntaf gan rai, ond bu nifer o agweddau'r gwrthdaro, gan gynnwys cyfrifoldebau, cyhuddiadau o droseddau rhyfel, ac ymyrraeth NATO, yn ddadleuol iawn.