Rhyd-y-Marchogion

Oddi ar Wicipedia
Rhyd-y-Marchogion
Mathfferm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanelidan Edit this on Wikidata
SirLlanelidan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr159.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0457°N 3.307°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Ffermdy o'r 18g yng nghymuned Llanelidan, Sir Ddinbych, yw Rhyd-y-Marchogion sydd bellach wedi ei rhannu'n ddau gartref modern. Cofrestrwyd adeiladau'r fferm ar 21 Mawrth 2001 gan Cadw, ar Radd II (Cyfeirnod: 24988).[1] Carreg leol yw gwneuthuriad y tŷ, gyda dwy simne o frics.

Safai adeiladau a buarth yr hen fferm ar hen groesffordd ger Afon Hesbin. Erbyn hyn, mae'r B5429 yn dal i groesi'r afon yno tra bod hefyd modd croesi drwy'r afon ar droed wrth ddilyn beth sydd erbyn hyn yn ffordd fain nad yw'n cael ei defnyddio.

Mae'r ffermdy, yr hoewal gysylltiedig a wal yr ardd yn gofrestredig am eu bod yn enghreifftiau da o'r math hyn o adeiladau ac mae gweddill adeiladau'r fferm hefyd yn gofrestredig gan eu bod yn cyflawni'r grŵp o adeiladau nodedig.

Cafodd yr emyn Gymraeg boblogaidd Er nad yw 'nghnawd ond gwellt ei chyfansoddi ym mherllan y fferm gan William Jones (Ehedydd Iâl).

Yr emyn 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'[golygu | golygu cod]

Y nefoedd uwch fy mhen
A dduodd fel y nos,
Heb haul na lleuad wen
Nac unrhyw seren dlos
A llym gyfiawnder oddi fry
Yn saethu mellt o'r cwmwl du.

Cydwybod euog oedd
Yn rhuo dan fy mron
Mi gofia'i chwerw floedd
Tra ar y ddaear hon -
Ac yn fy ing ymdrechais ffoi,
Heb wybod am un lle i droi.

Mi drois at ddrws y Ddeddf
Gan ddisgwyl cael rhyddhad;
Gofynnais iddi'n lleddf
Roi imi esmwythâd:
'Ffo am dy einioes', ebe hi,
'At Fab y Dyn i Galfari!'

Gan ffoi, ymdrechais ffoi
Yn sŵn taranau ffroch,
Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi
O'm hôl fel byddin goch;
Cyrhaeddais ben Calfaria fryn,
Ac yno gwelais Iesu gwyn.

Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt
Maddeuodd Duw fy mai:
Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]