Rheinallt ap Gwynedd

Oddi ar Wicipedia

Gitarydd Cymreig yw Rheinallt Wyn ap Gwynedd, sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae gyda'r band Apollo 440.

Mae'n frawd i'r actores Llinor ap Gwynedd, a'r gîtarydd, Peredur ap Gwynedd.[1]

Mae wedi chwarae'r gîtar fâs ar gyfer nifer o gerddorion adnabyddus megis Richard Ashcroft a KT Tunstall. Ymddangosodd ar raglen Ysgol Roc S4C yn 2010. Mae'n seiclwr brwd tebyg i'w frawd a mae'r ddau yn cyd-sylwebu ar raglenni S4C o'r Tour de France.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Rachel Mainwaring (10 Mai 2009). Top 50 single women in Wales. Wales On Sunday.
  2.  Le Tour de France ar S4C. S4C (4 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.