Rhegen yr ŷd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhegen yr Ŷd)
Rhegen yr ŷd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gruiformes
Teulu: Rallidae
Genws: Crex
Rhywogaeth: C. crex
Enw deuenwol
Crex crex
(Linnaeus, 1758)
Crex crex

Mae Rhegen yr ŷd (Crex crex), yn aelod o deulu'r Rallidae.

Mae'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Mae'n aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu yma, nid yw Rhegen yr Ŷd yn nythu mewn lleoedd gwlyb. Fel rheol mae'n nythu mewn caeau neu dir diffaith lle mae tyfiant uchel i guddio'r nyth a'r cywion. Yn rhannol oherwydd hyn, mae ei niferoedd wedi gostwng ar draws Ewrop, oherwydd yn aml mae ffermwyr yn torri'r gwair ar y caeau cyn i'r cywion ddod yn ddigon hen i hedfan.

Maent yn llawer haws eu clywed na'u gweld, gan eu bod fel rheol yn cadw o'r golwg mewn tyfiant uchel. Mae'r cefn yn frown gyda smotiau du, y pen a'r gwddf yn llwydlas a'r ochrau'n gochaidd. Pan maent yn hedfan mae'r adenydd yn edrych yn frowngoch. Mae'r cywion yn ddu. Fel rheol gellir clywed yr adar pan maent yn bresennol, oherwydd mae'n gwneud sŵn tebyg i'e enw Lladin, "crex crex". Hyn sy'n rhoi'r enw Cymraeg "Rhegen" iddo hefyd.

Ar un adeg yr oedd Rhegen yr ŷd yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ond er bod ambell gofnod o bâr yn nythu nid yw wedi nythu yma'n rheolaidd ers tua diwedd y 1950au. Mae'n eithaf cyffredin ar rai o ynysoedd gorllewin yr Alban, yn enwedig Coll a Tiree. Yno mae'r ffermwyr yn cael eu talu i ffermio mewn dulliau sy'n gadael i'r aderyn orffen nythu, ac o ganlyniad mae ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yno.

Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Dyddiaduron ffermio:

Awst 24ain 1934: Torri gwair yng Nghae cefn Ty Pwll hefo ceffylau a'r injan wair. Gorfod stopio yn sydyn, nyth Rhegen yr Yd yny gwair - twyso y ceffylau a'r injan rownd y nyth. Wythnos gyfnewidiol - haul a glaw.[1]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiadur DO Jones, Padog, Ysbyty Ifan, (yn eiddo i’r teulu, ond y testun ar Tywyddiadur Llên Natur [1])