Rhedynen ungoes

Oddi ar Wicipedia
Rhedynen ungoes
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pteridophyta
Dosbarth: Polypodiopsida
Urdd: Polypodiales
Teulu: Dennstaedtiaceae
Genws: Pteridium
Rhywogaeth: P. aquilinum
Enw deuenwol
Pteridium aquilinum
(L.) Kuhn
Rhedynen ungoes mewn coedwig

Rhedynen fawr a geir yn Ewrasia, Affrica a Gogledd America yw'r rhedynen ungoes neu'r rhedynen gyffredin (Pteridium aquilinum). Mae'n gyffredin iawn mewn coedydd, rhosydd, glaswelltir, twyni a pherthi. Gall hi fod yn bla mewn ffermdir ac mae'n cynnwys cemegyn carsinogenaidd.

Mae'n cynhyrchu ffrondiau sengl sy'n tyfu o risom hir tanddaearol. Gall y ffrondiau gyrraedd taldra o dri medr. Maent yn drianglog ac fe'u rhennir ddwywaith neu deirgwaith i ffurfio deilios bach.

Perthynas â dyn[golygu | golygu cod]

Llosgi

Nododd Lewis Morris yn ei adroddiad dyddiedig 1748 mewn adran neilltuedig i ardal Dulas, Ynys Môn, bod gweithfeydd llosgi rhedyn upon all this Coast. Meddai: ...they make Fern-ashes, which is sold to Soapboilers, Glass-houses, Smelting-houses, Refiners, &c.[1].

Ysgrifennwyd y canlynol, am y defnydd lleol hwn a wnaed o redyn, gan Rolant Williams, brodor o ogledd-orllewin Môn. Fe'i hysgrifennwyd ar gyfer prosiect Llên y Llysiau (Cymdeithas Edward Llwyd) yn y 1990au a dyma ei hatgyfodi yma:

Yn y Ilyfr The Life and Works of Lewis Morris 1701 — 1765, gan Hugh Owen, ceir disgrifiad pur fanwl o'r diwydiant Iludw rhedyn Pteridium aquilinum ym Mon. Pwrpas y gwaith oedd cynhyrchu potash, i'w werthu yn fwyaf arbennig i'r diwydiannau gwneud sebon a gwydr ac hefyd i'r todd-dai. Noda Lewis Morris fod diwydiant o'r fath yng nghyffiniau Dulas (Ynys Môn) ac yn wir dywed fod cynhyrchu Iludw rhedyn yn gyffredin lawn ar hyd Ilawer o'r glannau cyfagos. Yn oes y Morrisiaid yr oedd Dulas yn borthladd prysur o achos y fasnach mewn ymenyn, ceirch, penwaig, glo a chalch ac hefyd byddai'r Iludw rhedyn yn cael ei allforio oddi yno.

Yr oedd y broses o dorri a Ilosgi'r rhedyn ac yna glanhau a mesur y Iludw yn galw am gryn ofal gan ei fod yn hanfodol i'r Iludw fod o ansawdd arbennig os am fod o unrhyw werth masnachol. Ychwanegir hefyd na ddylid torri y crop rhedyn yn yr un fan fwy na thair mlynedd rhag gwanhau'r tyfiant.

Byddai i bob aelwyd neu losgfan dri gweithiwr i ofalu amdani ac fel arfer byddai'r Ilosgfannau mor agos i'r môr ag oedd yn bosibl er mwyn hwyluso casglu'r cynnyrch.

Yn ôl y pecaid y mesurid y Iludw i'w werthu a byddai'r broses yma eto yn galw am ofal a sylw arbennig. Yr oedd yn bwysig bod y Iludw yn cael ei fesur gan osgoi unrhyw wasgu neu ysgwyd diangen. Byddai hyn yn Ileihau y siawns iddo setlo a rhoi bargen i'r prynwr a cholled i'r gwerthwr.

Yn y pedwardegau a'r pumdegau cynnar o'r ganrif ddiwethaf [sef y 19g.] byddwn yn cael gryn bleser, fel Ilawer un arall a dyfodd i fyny o fewn cyrraedd hwylus y glannau, o gasglu "drec môr" ("broc môr" i lawer ohonom). Un o'r traethau gorau am ddrec ar ôl gwynt go dda o'r gogledd-ddwyrain oedd Porth y Gwichiaid, traeth dan gaeau Rhos Mynach. Weithiau byddai'r helfa mor dda (a'r ffordd adref mor bell!) byddai'n rhaid gadael drec ar ôl i'w gasglu'n ddiweddarach. Roedd un guddfan a ddefnyddiwn yn dra hwylus, o gerrig, ac ar siap crochan mawr a'r cwbl wedi ei orchuddio gan ddrysni a rhedyn.

Ychydig yn ôl tra'n cerdded y glannau bu'n rhaid i mi adael gwyneb caregog traeth Porth y Gwichiaid a chymryd i'r tir o achos Ilanw uchel, a deuthum wyneb yn wyneb a'r guddfan unwaith eto.

Mae'r maint a'r siap yn debyg i'r hyn a ddisgrifir yn Ilyfr Hugh Owen a diau fod tyfiant y rhedyn yn y ddeunawfed ganrif cyn gryfed os nad yn gryfach na thyfiant heddiw. Mae'r Ileoliad yn addas, ychydig o lathenni yn unig o ben y traeth a hawdd fuasai cludo'r Iludw i Ddulas mewn cwch rhwyfo i'w lanhau a'i baratoi at gael ei allforio.

Mae mwy o weddillion o'r fath ar dir y Penrhyn uwchben cesail Morfa Dulas er nad oes cymaint o'r gwaith cerrig yn sefyll. Credaf fod yr un pwrpas gwreiddiol i'r rhain hefyd.
Rolant Williams[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Hutchinson, G. (1996) Welsh Ferns, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Budenberg, GF (ed. 1987) Lewis Morris: Plans in St George's Channel -1748 (Lewis Morris Productions)
  2. Williams, R. (c.1995) Ysgrif achlysurol ar gyfer prosiect Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd)