Rhedynen-Fair Siapan
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | planhigyn llysieuaidd |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Anisocampium |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhywogaeth o redyn sy'n frodorol i ddwyrain Asia yw Athyrium niponicum[1][2], neu rhedynen-fair Siapan.[angen ffynhonnell]
Ailddiffiniwyd y rhywogaeth hon fel aelod o genws Anisocampium yn 2011 ar sail dadansoddiadau ffylogenetig,[3] ond mae'r genws i'w weld yng ngenws Athyrium ers hynny. [4]
Mae gan y rhedynen gollddail hon risom ymgripiol ac amrywiaeth o ffrondau ar ffurf clwstwr. Mae hyd y ffrondau yn amrywio, yn gyffredinol 30 i 75 centimetr o hyd ond weithiau maent dros fetr o hyd. Mae'r gan y dail israniadau, ac yn tyfu bob yn ail ar hyd y coesyn. Mae'r sori (clystyrau o sborangia) sy'n dwyn sborau ar ochr isaf y dail ffrwythlon yn amrywio o ran ffurf, gallent unai fod ar ffurf "hirgul, bachyn, ffurf llythyren 'J', neu ffurf pedol". [2]
Mae'r enw Lladin niponicum yn golygu "yn ymwneud â Siapan (Nippon)". [5]
Mae hwn yn rhedyn sy'n cael ei dyfu'n gyffredin, yn enwedig A. niponicum amr. pictum. Mae'n ffynnu mewn gerddi cysgodol o bob maeth ac yn cynhyrchu cytrefi trwchus o ffrondau llwydwyrdd gyda chanol cochlyd.[6] Ystyrir 'Pictum' hefyd yn gyltifar ; mae mathau a chyltifarau yn cael eu bridio i greu asen ganol mewn sawl arlliw o goch. [7]
Mae A. niponicum amr. pictum wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol[8] ac mae cyltifar 'Silver Falls' wedi ennill hefyd.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Athyrium niponicum. Integrated Taxonomic Information System (ITIS).
- ↑ 2.0 2.1 Anisocampium niponicum. Flora of China. eFloras.
- ↑ Liu, Y.-C., et al. (2011). Molecular phylogeny and taxonomy of the fern genus Anisocampium (Athyriaceae). Archifwyd 2014-02-22 yn y Peiriant Wayback Taxon 60(3) 824-30.
- ↑ PPG I (2016). "A community-derived classification for extant lycophytes and ferns". Journal of Systematics and Evolution 54 (6): 563–603. doi:10.1111/jse.12229.
- ↑ Harrison, Lorraine (2012). RHS Latin for Gardeners. United Kingdom: Mitchell Beazley. ISBN 184533731X.
- ↑ Athyrium niponicum var. pictum. Missouri Botanical Garden.
- ↑ Perry, L. Japanese Painted Fern. University of Vermont Extension, Department of Plant and Soil Science.
- ↑ "RHS Plantfinder - Athyrium niponicum var. pictum". Royal Horticultural Society. Cyrchwyd 12 January 2018.
- ↑ "RHS Plantfinder - Athyrium niponicum var. pictum 'Silver Falls'". Royal Horticultural Society. Cyrchwyd 19 January 2018.