Remscéla

Oddi ar Wicipedia

Yn llenyddiaeth Wyddeleg gynnar, dosbarth traddodiadol o chwedlau rhagarweiniol i'r Táin Bó Cúailnge yw'r remscéla. Fel y Táin ei hun mae'r remscéla i gyd yn perthyn i Gylch Wlster ac yn cael eu gosod mewn amser (dychmygol) ychydig cyn y Tain, fel math o gyflwyniad neu ragarweiniad iddo.

Mae'r term remscéla i'w gael yn Lebor Laigneach (Llyfr Leinster) a Llyfr Melyn Lechan. Er nad ydyw pob un o'r remscéla yn "rhagarweiniol" maent i gyd yn ymwneud i ryw raddau neu'i gilydd â chynllun y Táin ac felly'n rhan o gylch o chwedlau arbennig sy'n perthyn i'r epig enwog.

Mae'r remscéla yn cynnwys:

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997)