Aislinge Oenguso

Oddi ar Wicipedia

Chwedl Wyddeleg am yr arwr Gwyddelig Oengus (neu Aengus) yw Aislinge Oenguso ('Breuddwyd Oengus'). Mae'n un o'r remscéla sy'n rhagymadroddi y chwedl enwog Táin Bó Cuailgne.

Perthyn y chwedl i ddosbarth arbennig o chwedlau a cherddi a elwir yn aisling. Thema'r aisling yw bod arwr yn gweld yn ei gwasg gorwyn hardd ac yn syrthio mewn cariad â hi fel na all fyw heb fynd i chwilio amdani a'i chael. Mae Breuddwyd Macsen yn y traddodiad Cymraeg yn perthyn i'r dosbarth yma o lenyddiaeth Geltaidd.

Mab y Dagda a Boand yw Oengus. Yn ei gwsg caiff freuddwydion am forwyn hardd eithriadol. Gyda chymorth y brenin Ailill mac Mágach a Medb, brenhines Connacht, mae'n llwyddo i gael hyd iddi yn ne Iwerddon. Mae'r forwyn yn rhith alarch ar lyn gyda 150 o forwynion yn rhith eleirch. Mae Oengus yn troi ei hun yn rhith alarch ac yn cysgu â hi. Wedyn maent yn cylchu uwchben y llyn dair gwaith ac yn byw gyda'i gilydd am byth.

Daeth y chwedl yn adnabyddus iawn trwy'r fersiwn a luniodd yr Arglwyddes Augusta Gregory, cyfeilles W. B. Yeats. Ysgrifennodd Yeats ei hun gerdd seiliedig ar y chwedl, 'The Dream of Wandering Aengus'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 1997)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • F. Shaw (gol.), The Dream of Oengus (Dulyn, 1934)
    • Ceir cyfieithiad Saesneg dan y teitl The Dream of Óengus yn: J. Gantz (cyf.), Early Irish Myths and Sagas (Penguin, 1981)