Llyfr Leinster

Oddi ar Wicipedia
Un o dudalennau Llyfr Leinster

Llawysgrif Wyddeleg ganoloesol yw Llyfr Leinster (Gwyddeleg: Lebor Laignech). Mae'n un o'r llawysgrifau Gwyddelig pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr. Cafodd ei henwi'n Lebor Laigneach gan yr ysgolhaig Celtaidd Eugene O'Curry.

Mae haenau hynaf y llawysgrif i'w dyddio i tua'r flwyddyn 1160. Mae eu 187 tudalen memrwn yn cynnwys testunau cynnar o rai o drysorau pennaf llenyddiaeth Wyddeleg, yn cynnwys Lebor Gabála Érenn (Llyfr Cipio Iwerddon), sawl fersiwn o'r Dinnsenchas, y Táin Bó Cúailnge a detholiad o chwedlau o Gylch Wlster.

Cafodd yr ysgolhaig o Gymro Edward Lhuyd weld y llyfr yn 1700. Ers 1782 fe'i diogelir yn Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testun[golygu | golygu cod]

  • R. Atkinson (gol.), The Book of Leinster (Dulyn, 1880)
  • R. I. Best, O. Bergin et al. (gol.), The Book of Leinster, 6 cyfrol (Dulyn, 1954-83)

Cefndir[golygu | golygu cod]

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997)