Redon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Redon

Cymuned a thref yn Llydaw yw Redon (Gallo: Rdon). Saif yn département Il-ha-Gwilen a rhanbarth (rannvro / région) Breizh. Roedd poblogaeth y dref yn 2016 yn 8,889.

Saif ger cymer afonydd Oud a Gwilen, 60 km i'r de-ddwyrain o Roazhon, 50 km i'r dwyrain o Gwened, a 60 km i'r gogledd-orllewin o Naoned. Credir i'r dref ddatblygu yn y cyfnod Rhufeinig fel vicus llwyth y Redones. Yn 832, sefyflodd mynach Llydewig o'r enw Conwoïon abaty yma, gyda chymorth yr ymerawdwr Louis Dduwiol.