Rebecca Romero
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Rebecca Romero |
Dyddiad geni | 24 Ionawr 1980 |
Taldra | 1.83 |
Pwysau | 78kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treial Amser a Pursuit ar y trac |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2007 |
scienceinsport.com |
Prif gampau | |
![]() | |
Golygwyd ddiwethaf ar 9 Hydref 2007 |
Seiclwraig trac a chyn rhwyfwr ydy Rebecca Romero (ganwyd 24 Ionawr 1980, Twickenham, Llundain Fwyaf),[1] a enillodd fedal arian yn rhwyfo quadruple sculls Gemau Olympaidd 2004 yn Athen. Y flwyddyn ganlynol roedd hi'n aelod o dîm Prydain a enillodd Pencampwriaethau'r Byd quadruple sculls yn Gifu, Japan.
Yn 2006, penderfynodd Romero ymddeol o'r byd rhwyfo, yn rhannol oherwydd problemau gyda'i chefn, a dechreuodd seiclo gyda'r bwriad o ennill ail fedal Olympaidd mewn chwaraeon gwahanol.
Yn Rhagfyr 2006, enillodd fedal arian yng nghymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI, ei ras seiclo rhyngwladol gyntaf, gan golli allan ar yr aur i'w chyd Brydeinwraig, Wendy Houvenhagel. Cystadlodd Romero a Houvenhagel erbyn ei gilydd unwaith eto yn y rownd derfynol yng nghymal Manceinion yn Ebrill 2007.[2]
Enillodd fedal ym Mhencampwriaethau seiclo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 gydag arian yn y Pursuit.[3] Fe aeth cam ymhellach ym Mehncampwriaethau'r Byd 2008, gan ennill y fedal aur, a medal aur ychwanegol fel rhan o dîm pursuit merched gan osod record newydd y byd yn y broses mewn amser o 3:22.415.[4]
Mae Rebecca yn byw yn High Wycombe, Swydd Buckingham.
Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhwyfo[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gemau Olympaidd
- 2004 – Silver, Quadruple Sculls (gyda Frances Houghton, Debbie Flood & Alison Mowbray)
- Pencampwriaethau Rhwyfo'r Byd
- 2005 – 1af, Quadruple Sculls (gyda Katherine Grainger, Frances Houghton & Sarah Winkless)
- 2003 – 4ydd, Double Sculls
- 2002 – 5ed, Quadruple Sculls
- 2001 – 5ed, Quadruple Sculls
- Pencampwriaethau'r Byd Odan 23
- 2000 – 1af, 2-
- 1999 – 4ydd, 1x
Seiclo[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2007
- 1af
Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
- 2il Pursuit, Cymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af
Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af
Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af
Pursuit Tîm (gyda Joanna Rowsell a Wendy Houvenhagel), Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Proffil ar wefan swyddogol Gemau Olympaidd Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-31. Cyrchwyd 2007-10-09.
- ↑ Pendleton sets new British record BBC 24 Chwefror 2007
- ↑ Pursuit quartet and Hoy take gold BBC 30 Mawrth 2007
- ↑ World Track Cycling: Rebecca Romero record, Brendan Gallagher 27 Mawrth 2008[dolen marw]
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan Swyddogol
- Proffil ar wefan Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback. British Cycling
- Dyddiadur Fideo Romero ar gyfer y Telegraph[dolen marw] Mawrth 2008