Rachel Rice
Gwedd
| Rachel Rice | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Mawrth 1984 Torfaen |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, model, actor ffilm |
| Gwefan | http://www.rachel-rice.co.uk/ |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Actores a model yw Rachel Rice (ganwyd 7 Mawrth 1984), sy'n fwyaf enwog am fod yn enillydd ar raglen Saesneg Big Brother yn 2008. Hi yw'r Gymraes gyntaf i ennill y rhaglen.[1] Mae ganddi radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Drama, ac mae'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Abersychan.
Dechreuodd actio yn y ffilm Night train to Venice yn 1993 a arweiniodd at nifer o rannau eraill mewn ffilmiau ac ar y teledu.
Yn Big Brother 2008, enillodd gefnogaeth am ei phersonoliaeth gref a'i phen gadarn wrth wynebu ymosodiadau wrth gystadleuthwyr eraill. Tra yn y tŷ gwnaeth ffrindiau gyda chyd-gystadleuwyr Kathreya, Darnell, Mikey, Mohammed a Rex. Enillodd y rhaglen gyda 51% o'r bleidlais derfynol rhyngddi a Mikey.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Ffilm/Teledu | Rôl |
|---|---|---|
| 2008 | Big Brother 2008 DU | Ei hun (Enillydd) |
| 2007 | The History of Mr Polly | Ffrind Christabel |
| 2001 | Happy Now | Ail gystadleuwr |
| 1996 | The Prince and the Pauper | Prissy |
| 1995 | Mister Dog | Giulia |
| 1994 | The Lifeboat | Debbie |
| 1994 | The Adventures of Sherlock Holmes | Marina Savage |
| 1993 | Night Train to Venice | Pia |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Smith, Lizzie (6 Medi 2008). "Big Brother: Rachel beats the bookies to become shock winner". London: Mail Online. Cyrchwyd 2008-09-07.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Swyddogol