RSVP

Oddi ar Wicipedia

Process ar gyfer derbyn ymateb oddi wrth wahoddedigion yw RSVP. Mae'n llythrenw sy'n deillio o'r ymadrodd Ffrangeg Répondez s'il vous plaît[1] sy'n golygu "Ymatebwch os gwelwch yn dda". Mae'n dal i gael ei ddefnyddio mewn Ffrangeg, ac yn y ffurf hon gan nifer o ieithoedd eraill, i ofyn am gadarnhad mewn ymateb i wahoddiad.[2] Mewn cyd-destun ffurfiol yn bennaf, fel priodas neu lawnsiad swyddogol, y caiff RSVP yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru erbyn hyn. Mae wedi dod yn fwy cyffredin hefyd i anfon nodyn i roi gwybod i wahoddedigion gadw dyddiad yn rhydd ar gyfer digwyddiad fel priodas neu fedydd, a bod y gwahoddiad ffurfiol yn dilyn yn ddiweddarach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rsvp : Définition simple et facile du dictionnaire". www.linternaute.com (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2018-02-27.
  2. fr:InvitationNodyn:Better source