Llythrenw
Gwedd
Mae llythrenw yn fyrfodd sy'n defnyddio llythyren gyntaf pob gair mewn ymadrodd. Mae'n bosib creu gair newydd drwy'r broses hon e.e. "nylon", neu lythrenw a yngenir drwy ddweud pob llythyren yn unigol "BBC" (Bi-bi-si).
Yn y gorffennol, dim ond nifer o lythrenwau oedd yn cael eu defnyddio (e.e. neu h.y.) ond, bellach, ceir llawer mwy o lythrenwau oherwydd y cynnydd mewn termau technoleg a geirfa Cymraeg.
Engrheifftiau
[golygu | golygu cod]| Byrfodd | Ymadrodd |
|---|---|
| ayb, ayyb | ac yn y blaen |
| C.C. | Cyn Crist |
| DC | De Cymru |
| eb | enw benywaidd |
| e.e. | er enghraifft |
| eg | enw gwrywaidd |
| GC | Gogledd Cymru |
| h.y. | hynny yw |
| o.n. | ôl nodyn |
| O.C. | Oed Crist |
| SDIC | Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig |
| yb | y bore |
| yh | yn hwyr |