Cenedl enwau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Enw gwrywaidd)
Jump to navigation Jump to search

Priodoledd gramadegol yw cenedl enwau. Mae cenedl enwau yn amrywio yn ôl iaith. Yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, sy'n cynnwys y Gymraeg a'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop, Iran ac is-gyfandir India, mae enwau'n gallu bod yn wrywaidd, benywaidd neu (weithiau) yn ddi-genedl neu niwtral. Yn achos rhai ieithoedd eraill fel Siapaneg a Tsieineeg ni cheir cenedl enw o gwbl. Mater o gyfleustra gramadegol yn unig yw'r termau 'benywaidd' a 'gwrywaidd' yma.

Y Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Gymraeg mae enwau'n naill ai'n fenywaidd neu wrywaidd, ond mae rhai enwau'n amrywio o ran cenedl yn ôl bro neu dafodiaith. Yn ogystal, ceir rhai enghreifftiau o enwau'n newid cenedl gydag amser, e.e. mae dinas yn enw benywaidd heddiw ond bu'n wrywaidd cynt; gwelir yr hen genedl o hyd mewn enwau lleoedd, e.e. Braich-y-Dinas. Weithiau mae cenedl enw yn amrywio yn ôl ystyr y gair, e.e. golwg ("yn y golwg" ond "yr olwg arno!"). Yn achos rhai geiriau benthyg diweddar mae'r genedl yn fater o ddewis gan nad ydynt wedi cael yr amser i ymgartrefu yn yr iaith.

Ling template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.