R.E.M.

Oddi ar Wicipedia
R.E.M. yn 2003

Roedd R.E.M. yn fand roc a ffurfiwyd yn Athens, Georgia, ym 1980 gan Michael Stipe (prif leisydd), Peter Buck (gitâr), Mike Mills (gitâr bâs) a Bill Berry (drymiau ac offerynnau traw). Roedd R.E.M yn un o'r bandiau roc amgen cyntaf i fod yn boblogaidd a daethant yn adnabyddus yn sgîl y modd y chwaraeodd Buck ei gitâr a llefaru aneglur Stipe. Rhyddhaodd R.E.M. eu sengl cyntaf, 'Radio Free Europe', ym 1981 ar y label recordio annibynnol Hib-Tone. Dilynwyd y sengl hon gyda'r EP Chronic Town ym 1982, y tro cyntaf i'r band ryddhau cerddoriaeth ar label I.R.S. Records. Ym 1983, rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf, Murmur, i ganmoliaeth aruchel ac adeiladodd y band eu henw da dros y blynyddoedd canlynol trwy ryddhau mwy o'u cerddoriaeth, teithio'n barhaus o amgylch y wlad yn perfformio'n fyw a thrwy gefnogaeth radio colegau. Wedi blynyddoedd o lwyddiant ar y sîn tanddaearol, llwyddodd R.E.M. yn y prif ffrwd cerddorol ym 1987 gyda'r sengl 'The One I Love'. Arwyddodd y grŵp gytundeb gyda Warner Bros. Records ym 1988 a dechreuasant sôn am eu pryderon gwleidyddol ac amgylcheddol tra'n perfformio i gynulleidfaoedd eang ledled y byd. Gwahanodd y band ym Medi 2011.