Rügen
Gwedd
| Math | ynysfor, ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Bergen auf Rügen |
| Poblogaeth | 67,526 |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Y Môr Baltig |
| Sir | Ardal Vorpommern-Rügen |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 926 km² |
| Uwch y môr | 161.1 metr |
| Gerllaw | Basn Arkona |
| Cyfesurynnau | 54.45°N 13.4°E |
| Hyd | 52 cilometr |
![]() | |
Ynys fwyaf yr Almaen yw Rügen. Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad yn agos at arfordir Pomerania yn y Môr Baltig. Mae'n perthyn i dalaith Mecklenburg-Vorpommern.
Mae'r ynys yn ymestyn tua 52 km (32 milltir) o'r gogledd i'r de, a 43 km (27 milltir) o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae ganddi arwynebedd o 926 km2 (358 milltir sgwâr).
Mae'r arfordir yn nodedig am ei draethau tywodlyd, morlynnoedd a baeau agored, yn ogystal â'i glogwyni, penrhynau a phentiroedd.
Mae'r ynys yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid oherwydd ei bensaernïaeth, y dirwedd amrywiol a'i thraethau hir, tywodlyd. Ym Mehefin 2011, dyfarnodd UNESCO statws Safle Treftadaeth y Byd i Barc Cenedlaethol Jasmund.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Parc Cenedlaethol Jasmund, a'i glogwyni sialc: Victoria-Sicht a Königsstuhl
-
Traeth Binz
-
Kurhaus (gwesty sba) yn Binz
-
Kreidefelsen auf Rügen ("Clogwyni Sialc ar Rügen"), paentiad Rhamantaidd o 1818 gan Caspar David Friedrich
