Quintillus
| Quintillus | |
|---|---|
| Ganwyd | 212 Sirmium |
| Bu farw | 270, Hydref 270 Aquileia |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain |
| Priod | Unknown |
| Plant | Unknown, Unknown |
Marcus Aurelius Claudius Quintillus (bu farw 270) oedd ymerawdwr Rhufain am gyfnod yn ystod y flwyddyn 270.
Roedd Quintillus yn frawd i’r ymerawdwr Claudius II. Ychydig a wyddir am Quintillus: ni wyddir dyddiad ei eni, union ddyddiad ei farwolaeth, enew ei wraig nag enwau ei ddau blentyn. Pan fu farw Claudius II yn 270, cyhoeddwyd Quintillus yn ymerawdwr, er y dywedir fod Claudius cyn marw wedi enwi Aurelian fel ei olynydd. Derbyniwyd Quintillus yn ymerawdwr gan y Senedd.
Wedi dod yn ymerawdwr aeth Quintillus ar ei union I Aquileia a defnyddiodd y ddinad hon fel canolbwynt amddiffynfeydd gogledd yr Eidal. Roedd yn ofni ymosodiad gan Ymerodraeth y Galiaid oedd dan lywodraeth Victorinus.
Roedd Aurelian yn gadfridog y llengoedd Rhufeinig yn nhaleithiau y Balcanau ac yn wynebu ymosodiadau gan lwythi Almaenaidd oedd yn ceisio croesi Afon Donaw. Cafodd fuddugoliaeth bwysig drostynt, a chyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan lengoedd Pannonia.
Pan glywodd Quintillus fod byddin Aurelian ar ei ffordd I Rufain, penderfynodd aros yn Aquileia yn hytrach na mynd i Rufain ei hun. Wrth weld fod byddin Aurelian yn llawer cryfach na’i fyddin ei hun, penderfynodd Quintillus ladd ei hun er mwyn osgoi rhyfel cartref, ar ôl teyrnasiad o 77 diwrnod.
| Rhagflaenydd: Claudius II |
Ymerawdwr Rhufain 270 |
Olynydd: Aurelian |