Queimada

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae'r Queimada yn ddiod feddwol ac yn draddodiad o Galisia.

Patatoi'r Queimada.
Adrodd y Swyn.
Fflamau glas y Queimada.

Mae Queimada (llosgi / coelcerth) yn debyg i bwnsh a wneir o 'augardente de Orujo' (dŵr tân Orujo) – gwirod wedi'i ddistyllu o win gan ychwanegu perlysiau, ffa coffi, siwgr, croen lemwn a sinamon mewn crochan.

Mae'r Quiemada yn cael ei rhoi ar dân ac yn llosgi'n araf tra bod swyn yn yr iaith Galisieg yn cael ei adrodd. Mae'r swyngan yn galw ar rymoedd hudol gael eu rhoi i'r Queimada ac i'r yfwyr iddynt gael gwared ag ysbrydion drwg.

Gwreiddiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer yn dweud bod y Queimada yn hen draddodiad Geltaidd. Ond mae eraill yn dadlau bod y Queimada ond yn deillio o'r 1950au gan Galisiadd alltud yn llefydd fel Madrid [1]

Mae'r Queimada bellach yn rhan annatod o draddodiad a hunaniaeth Galisaidd gyda chrochanau clai Queimada ar werth trwy Galsia. Cafodd y geiriau sydd yn cael eu hadrodd gan amlaf dyddiau yma eu hysgrifennu gan Mariano Marcos Abalo yn y 1960au.[2][3]

Swyngan[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Galiseg Yn Gymraeg

Mouchos, curuxas, sapos e bruxas.

Demos, trasgos e diaños,

espsíritos das neboadas veigas.

Corvos, píntegas e meigas:

feitizos das menciñeiras. Podres cañotas furadas,

fogar dos vermes e alimañas.

Lume das Santas Compañas,

mal de ollo, negros meigallos,

cheiro dos mortos, tronos e raios. Ouveo do can, pregón da morte;

fuciño do sátiro e pé do coello.

Pecadora lingua da mala muller

casada cun home vello. Averno de Satán e Belcebú,

lume dos cadáveres ardentes,

corpos mutilados dos indecentes,

peidos dos infernais cus,

muxido da mar embravecida. Barriga inútil da muller solteira,

falar dos gatos que andan á xaneira,

guedella porca da cabra mal parida. Con este fol levantarei

as chamas deste lume

que asemella ao do Inferno,

e fuxirán as bruxas

a cabalo das súas vasoiras,

índose bañar na praia

das areas gordas. ¡Oíde, oíde! os ruxidos

que dan as que non poden

deixar de queimarse no augardente

quedando así purificadas. E cando este beberaxe

baixe polas nosas gorxas,

quedaremos libres dos males

da nosa alma e de todo embruxamento. Forzas do ar, terra, mar e lume,

a vós fago esta chamada:

se é verdade que tendes máis poder

que a humana xente,

eiquí e agora, facede que os espíritos

dos amigos que están fóra,

participen con nós desta Queimada.

Tylluanod, tylluanod, llyffantod a gwrachod,

Diawled, cythreuliaid a chorachod,

ysbryd y cymoedd niwlog,

Brain, dewiniaid a nadroedd;

swyn y gwiddion. Ffyn tyllu wedi pydru,

cartref chwilod a 'sglyfaethau,

Tân y Cwmni Sanctaidd,

llygad drwg, dewiniaeth ddu,

arogl y meirw, mellt a tharanau. Argoel farwolaeth; bloedd y ci,

llawenydd y bwgan a thraed cwningod.

tafod pechadurus y wraig ddrwg,

briod â hen ddyn. Uffern Lwsiffer a Satan,

tân o feirwon yn llosgi,

cyrff yr anweddus wedi'u rhwygo,

rhechfeydd tinau Dydd y Farn,

chwythu'r môr cynddeiriog. Bol diwerth y wraig ddi-briod,

siarad cathod yn hel cathod,

tywarchen fudr yr afr a anwyd yn annuwiol. Gyda'r meginau byddaf yn codi

fflamau'r tân hwn,

golwg uffern arnynt,

a bydd gwrachod yn ffoi,

yn farchog eu hysgubellau,

yn mynd i ymdrochi ar y traeth

y tywod trwchus. Clywch Clywch y twrw!

o'r rhai sydd yn methu

dianc rhag llosgi yn y pair

ac yn cael eu puro. A phan aeth y ddiod hon,

i lawr ein gyddfau,

bydden ni'n rhydd o'r drwg,

o ein henaid ac unrhyw felltith. Ar rymoedd yr awyr, daear, môr a thân,

dwi'n gwneud yr alwad hon arnoch,

Os mae'n wir fod gynnech

fwy o rym na dynion,

yma ac yn awr, gwnewch yr ysbrydion,

y cyfeillion sydd y tu allan,

cymryd rhan gyda ni yn y coelcerth hon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. González Reboredo, X.M. (April 17–19, 2000). "Simposio Internacional de Antropoloxía". Etnicidade e Nacionalismo. Santiago de Compostela: Consello da Cultura Galega. p. 229-230. ISBN 84-95415-34-8. Check date values in: |year= / |date= mismatch (help)
  2. "El café en la queimada es una copia de los catalanes", La Voz de Galicia, 2005-08-09. Retrieved on 2010-01-01.
  3. "Desmontamos os mitos sobre a orixe ancestral da queimada", Consello da Cultura Galega, 2007-10-10. Retrieved on 2010-01-01.
Vodka template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am wirod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.