Queer as Folk

Oddi ar Wicipedia
Queer as Folk
Genre Drama / Opera sebon
Serennu Aidan Gillen
Craig Kelly
Charlie Hunnam
Gwlad/gwladwriaeth DU
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 10
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c. 35 i 50 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Channel 4
Darllediad gwreiddiol 23 Chwefror, 199922 Chwefror, 2000

Cyfres deledu Brydeinig ym 1999 oedd Queer as Folk yn olrhain hanes bywydau tri dyn hoyw sy'n byw o amgylch pentref hoyw Canal Street ym Manceinion. Ysgrifennwyd Queer as Folk a Queer as Folk 2 gan Russell T. Davies. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r ddrama Bob and Rose ac am ad-fywiad Doctor Who ar y BBC yn 2005. Cafodd y gyfres ei ail-darlledu rhwng 14eg a'r 18fed o Hydref 2007 fel rhan o ddathliadau penblwydd Sianel 4 yn 25 oed.

Cynhyrchwyd Queer as Folk gan y cwmni teledu annibynnol Red Production Company ar gyfer Sianel 4, cwmni a oedd wedi dangos eu parodrwydd i ddelio a deunydd hoyw mewn ffilmiau fel Beautiful Thing. Daw teitl y gyfres o ymadrodd ieithyddol o Ogledd Lloegr "There's nought so queer as folk" sy'n golygu "does dim mor rhyfedd a phobol." Bwriad gwreiddiol Davies oedd i ddefnyddio hyn fel enw'r gyfres ond awgrymodd Sianel 4 y dylid byrhau'r enw i Queer as Folk.

Cafodd y gerddoriaeth agoriadol a'r gerddoriaeth a oedd yn cyd-fynd â'r gyfres ei ysgrifennu'n arbennig ar gyfer y gyfres gan Murray Gold.

Cymeriadau a'r plot[golygu | golygu cod]

Dywed cynhyrchwyr y gyfres fod Queer as Folk, er yn arwynebol, yn ddarlun realistig o fywyd hoyw dinesig yn ystod y 1990au. Y prif gymeriadau yw Stuart Alan Jones (Aidan Gillen), sy'n cael nifer o bartneriaid rhywiol; ei ffrind hir-dymor Vince Tyler (Craig Kelly), sydd yn ffansio Staurt ond caiff llawer llai o lwyddiant gyda dynion; a Nathan Maloney (Charlie Hunnam), bachgen 15 oed sy'n newydd i'r gymuned hoyw ond sydd a digonedd o hunan hyder serch hynny.

Darlunir Stuart, rheolwr hysbysebu yn Neuadd Bridgewater fel cymeriad sydd a phŵer naturiol, a'r gallu i wneud beth bynnag y mynno. Prif nodwedd ei gymeriad yw ei fod yn gwneud yr hyn a fynno, pryd bynnag a fynno a sut bynnag a fynno. Ffrwydra gar ffrind ei fam cwerylgar, gwahodda ferch sy'n ffansio Vince i'w barti penblwydd ac yna cyflwyna gariad gwrywaidd Vince iddi, er mwyn gwneud i Vince ei gasau.

Rhoddir dyfnder i rhai o'r is-gymeriadau hefyd, megis Hazel ac Alexander. Gellir priodoli peth o lwyddiant y gyfres i'r modd y gadawodd yr ysgrifennwr rhai pethau allan, gan adael i'r stori ddatblygu o amgylch y cymeriadau.

Yn yr ail gyfres, daeth naws y rhaglenni yn fwy difrifol, gyda rhai o'r prif gymeriadau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd am eu dyfodol

Lleoliad a chynhyrchu[golygu | golygu cod]

Lleolwyd y gyfres o amgylch pentref hoyw Manceinion, Lloegr. Ffilmiwyd y golygfeydd o glwb nos "Babylon" yn y clwb "Cruz 101". Ar gyfer ffilmio, symudwyd arwyddion a goleuadau arferol y clwb ac ychwanegwyd blwch ffonio. Pan orffenwyd ffilmio, symudwyd y cisog a dychwelwyd yr enw Cruz 101 ar y clwb. Newidiwyd y tu mewn i rai o'r tafarnai hoyw ar Canal Street hefyd.

Cast Queer as Folk[golygu | golygu cod]

Ymateb i'r gyfres[golygu | golygu cod]

Because I'm queer. I'm gay. I'm homosexual. I'm a poof, I'm a poofter, I'm a ponce. I'm a bumboy, battyboy, backside artist, bugger, I'm bent. I am that arsebandit. I lift those shirts. I'm a faggot-ass, fudge-packing, shit-stabbing uphill gardener. I dine at the downstairs restaurant, I dance at the other end of the ballroom. I'm Moses and the parting of the red cheeks. I fuck and am fucked. I suck and am sucked. I rim them and wank them, and every single man's had the fucking time of his life. And I am not a pervert. If there's one twisted bastard in this family, it's this little blackmailer here. So congratulations, Thomas. I've just officially outed you. - Stuart

Ystyriwyd y gyfres gyntaf yn hynod ddadleuol yn y DU am fod nifer o bobl wedi cael sioc yn sgîl yr iaith liwgar a'r ffaith fod bachgen 15 oed yn cymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol gyda dyn hŷn. Bryd hynny, yr oed cydsynio i ddynion hoyw yn y Deyrnas Unedig oedd 18, er i'r oed hwn gael ei ostwng i 16 yn ddiweddarach.) Roedd natur rywiol nifer o'r golygfeydd hefyd yn bwnc llosg; yn benodol y rhaglen gyntaf yn y gyfres lle cafwyd golygfa rywiol hir a oedd yn cynnwys hunan-leddfu, cyswllt rhefrol-geneuol ac alldafliad. Daeth y gyfres yn lwyddiant mawr er gwaethaf y ffaith ei bod yn cael ei darlledu'n hwyr yn y nos ac er i noddwr y rhaglen, y cwrw Beck's, dynnu allan.

Yn sgîl llwyddiant y gyfres gyntaf, comisiynodd Channel 4, Russell T. Davies i ysgrifennu ail gyfres. Er nad oedd Davies yn bwriadu ysgrifennu ail gyfres lawn yn wreiddiol, penderfynodd nad oedd llawer mwy o stori i ddweud, ac felly gorffennodd y stori gyda dwy raglen yn unig, Queer as Folk 2. Darlledwyd y gyfres yn 2000 i gynulleidfa ychydig yn llai, er gwaetha'r ffaith fod y rhaglen yn cael ei darlledu yn gynt yn y nos. Y tro hwn, ni chafwyd golygfeydd o natur rywiol amlwg, penderfyniad a ganmolwyd gan y bobl a feirniadodd y gyfres flaenorol. Beirniadwyd y gyfres gan nifer o gefnogwyr y gyfres am eu bod yn teimlo fod gormod o gwestiynau heb eu hateb a'u bod yn teimlo nad oedd yr ail gyfres yn "dod i gasgliad" penodol.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato