Pump Prysur

Oddi ar Wicipedia

Mae Pump Prysur yn gyfres o lyfrau i blant a gyhoeddwyd gan gwmni Atebol, Aberystwyth, rhwng 2014 a 2015. Maent yn gael eu disgrifio fel llyfrau Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres Pump Prysur yn addasiad o wyth o straeon byrion am gymeriadau'r gyfres nofelau i blant The Famous Five gan Enid Blyton. Casglwyd y straeon Saesneg gwreiddiol yn y llyfr Five Have a Puzzling Time and Other Stories [2] ym 1995. Addaswyd y straeon i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros a darluniwyd y llyfrau gan Jamie Littler.

Rhestr[golygu | golygu cod]

Llyfrau'r Pump Prysur Addasiad o:
Pump mewn Penbleth [3] Five Have a Puzzling Time
Mae Gwallt Jo yn Rhy Hir [4] George's Hair is Too long
Go Dda, Twm [5] Good Old Timmy
Pnawn Diog [6] A Lazy Afternoon
Da iawn, Pump Prysur [7] Well Done Famous Five
Yr Antur Hanner Tymor [8] Five and a Half Term Adventure
Nadolig Llawen Pump Prysur [9] Happy Christmas Five
Twm yn Hela Cathod [10] When Timmy Chased the Cat

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Mae'r storïau yn dilyn anturiaethau Jo, ei chi ffyddlon, Twm, a'i chefndryd Siôn, Dic ac Ani.

  • Mae Jo yn hogan fachgennaidd ei natur. Mae hi'n benben ac yn ddewr mae ganddi dymer boeth a thanbaid. (Yn y llyfrau Saesneg hi yw George /Georgina)
  • Twm yw ci ffyddlon Jo. Mae'n gyfeillgar iawn; mae'n glyfar, yn serchog ac yn deyrngar i'r plant ac i Jo yn benodol; mae'n darparu amddiffyniad corfforol iddynt lawer gwaith. Mae Jo yn addoli Twm ac yn meddwl mai ef yw'r ci gorau yn y byd, ac yn aml mae'n mynd yn ddig pan fydd pobl yn ei sarhau. (Yn y llyfrau Saesneg ei enw yw Tim, Timmy neu Timothy)
  • Siôn yw'r hynaf o'r pump, mae'n gefnder i Jo ac yn frawd hynaf Dic ac Ani. Mae'n dal, yn gryf ac yn ddeallus yn ogystal â gofalgar, cyfrifol a charedig. (Yn y llyfrau Saesneg ei enw yw Julian)
  • Mae gan Dic synnwyr digrifwch digywilydd, ond mae hefyd yn ddibynadwy ac yn garedig ei natur. Mae'r un oed â'i chyfnither Jo, flwyddyn yn iau na'i frawd Siôn ac yn hŷn na'i chwaer Ani. (Yn y llyfrau Saesneg ei enw yw Dick)
  • Ani yw'r ieuengaf o'r criw. Gan mae hi yw'r ieuengaf, mae hi'n fwy tebygol na'r lleill o gael ofn, ac nid yw yn wir mwynhau'r anturiaethau gymaint â'r lleill. Er gwaethaf ei phryderon mae ei dewrder cynhenid yn ymddangos ym mhendraw pob antur. (Yn y llyfrau Saesneg ei henw yw Anne).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 9781910574157, Pump Prysur: Da Iawn, Pump Prysur". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-04.
  2. Blyton, Enid (2009). Famous Five short story collection. London: Hodder Children's. ISBN 9780340932490. OCLC 339619972.
  3. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Pump mewn penbleth. Aberystwyth. ISBN 9781910574164. OCLC 934937723.
  4. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Mae gwallt Jo yn rhy hir. Aberystwyth. ISBN 9781909666849. OCLC 1050557383.
  5. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Go dda, Twm. Aberystwyth. ISBN 9781909666856. OCLC 1050525795.
  6. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Pnawn diog. Aberystwyth. ISBN 9781909666832. OCLC 1050543996.
  7. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Da iawn, Pump Prysur. Aberystwyth. ISBN 9781910574157. OCLC 934937695.
  8. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Yr antur hanner tymor. Aberystwyth. ISBN 9781909666870. OCLC 1050533941.
  9. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Nadolig llawen Pump Prysur. Aberystwyth. ISBN 9781910574188. OCLC 934937763.
  10. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Twm yn hela cathod. Aberystwyth. ISBN 9781910574171. OCLC 934937696.