Protëws (duw)

Oddi ar Wicipedia
Proteus, llun gan Andrea Alciato

Mae Protëws (Proteus) yn dduw morol a chanddo'r gallu i newid ei ffurf, yn fab i Poseidon a Thethys ym mytholeg Roeg. Gwasanaethai Poseidon fel ceidwad neu fugail ei forloi. Fe'i portreadir gan amlaf fel henwr. Roedd ganddo'r gallu i ragweld y dyfodol ond dewisai newid ei ffurf i gael llonydd gan ymholwyr.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato