Prostad

Oddi ar Wicipedia
Prostad
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathmale accessory sex gland, organ llabedog, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem atgenhedlu gwrywaidd Edit this on Wikidata
Cynnyrchhylif y prostad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwarren sy'n rhan o'r organau cenhedlu gwryw yw'r prostad[1][2].

'Gwarchodwr' neu 'geidwad' ydy ystyr prostad (o'r gair Groeg προστάτης - prostates). Chwarren gyfansawdd ecsocrin ydyw (hynny yw 'compound tubuloalveolar exocrine gland') a rhan bwysig o system atgenhedlu mamaliaid gwryw. Nid oes gan fenywod neu mamaliaid benyw eraill brostad.

Mae'r prostad yn wahanol mewn gwahanol rywogaethau, yn wahanol o ran ei anatomi, yn gemegol ac o ran ei ffisioleg.

Ei bwrpas[golygu | golygu cod]

Prif bwrpas y prostad yw storio a secretu hylif clir gyda pH o 7.29; mae'r hylif hwn o ran cyfaint rhwng 10-30% o'r hylif hadlifol (semenol) sydd ynghyd â'r sberm yn gwneud y semen. Mae gweddill yr hylif yn dod o'r ddau fesicl hadlifol. Mae'r hylif hadlifol, fel y dywedir, ychydig yn alcalïaidd, ac felly'n niwtraleiddio hylif asidig y wain (fagina) sy'n hwyhau oes y sberm.

Mae gan y prostad hefyd ychydig o gyhyrau llyfn sy'n help i alldaflu'r semen ar eiliad yr orgasm.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-03-08.
  2. "Chwiliwch am derm, gair neu ymadrodd". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2022-03-08.
Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.