Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth

Oddi ar Wicipedia
Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth
Llinellau agoriadol y llawysgrif Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth, allan o Lyfr Coch Hergest
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu13 g Edit this on Wikidata

Chwedl mewn Cymraeg Canol yw Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth sy'n ymddangos yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r enw'n cyfeirio at y wraig Rhufeinig Tiburtine Sibyl (neu Albunea).

Ar wahan i'r chwedl ei hun, cyfeirir ati hefyd ati yn yr adran Trioedd Ynys Prydain:

Tri dyn a gauas doethineb Addaf, Cado hen, a Beda, a Sibli ddoeth. Kyn ddoethynt oedynt eill tri ag Addaf ehun.[1]

Mae Sibli (Sibil yn Saesneg) yn ymddangos hefyd mewn cerdd gan Guto’r Glyn Cysuro Ann Herbert, iarlles Penfro, ar ôl marwolaeth ei gŵr:[2]

Ail Sibli, o lys Weblai,
Ddoeth deg, bendith Dduw i'th dai!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]