Priordy Hwlffordd
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
priordy, adfeilion mynachlog ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Hwlffordd ![]() |
Sir |
Sir Benfro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7982°N 4.9644°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i |
y Forwyn Fair, Thomas Becket ![]() |
Manylion | |
Priordy o Ganoniaid Rheolaidd Awstinaidd ychydig i'r de o dref Hwlffordd yn Sir Benfro oedd Priordy Hwlffordd.
Sefydlwyd y priordy tua 1180 gan Robert FirzRichard; efallai fod cysylltiad rhwng y sefydliad a mynach Cymreig o'r enw Caradog. Sefydlwyd y priordy i 13 canon. Yn 1291 amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £17. Pan ddiddymwyd ef yn 1536 amcangyfrifwyd ei werth fel £135; yr adeg honno roedd prior, dau ganon a phedwar offeiriad yno.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120