Porth y Byddar (nofel)
Gwedd
clawr y nofel 2017 | |
| Enghraifft o: | nofel Gymraeg |
|---|---|
| Awdur | Manon Eames |
| Cyhoeddwr | Gwasg y Bwthyn |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 2017 |
| Cysylltir gyda | Porth y Byddar (drama) |
| Argaeledd | ar gael |
| Prif bwnc | Boddi Tryweryn |
| Dynodwyr | |
Nofel gyntaf yr actores, dramodydd a'r sgriptiwr llwyddiannus, Manon Eames, yw Porth y Byddar, a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'r nofel yn addasiad o'i drama lwyfan o'r un enw [Porth y Byddar] gafodd ei lwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru yn 2007.
Olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Capel Celyn ger y Bala sydd yn y nofel, ac helynt Boddi Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwfl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Porth y Byddar - Manon Eames". Cant a mil (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.