Port Laoise
Gwedd
| Math | tref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Laois |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 12.1 km² |
| Uwch y môr | 139 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0309°N 7.3008°W |
| Cod post | R32 |
![]() | |
Prif dref Swydd Laois yng nghanolbarth Gweriniaeth Iwerddon yw Port Laoise[1] (hen ffurf Portlaoighise; hen enw Saesneg: Maryborough). Yn 2006, roedd y boblogaeth yn 14,275.
Tyfodd y dref bresennol o amgylch caer "Fort of Leix" neu "Fort Protector", a adeiladwyd yn 1548 i geisio diogelu rheolaeth Seisnig ar yr ardal. Sefydlwyd y dref ei hun gan fesur seneddol yn 1557, yn ystod teyrnasiad Mari I, brenhines Lloegr, a chafodd yr enw Maryborough. Fe'i gwnaed yn fwrdeistref yn 1570.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
