Pont Grog Heol De Portland, Glasgow
Gwedd
| Math | pont grog |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Glasgow |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.855°N 4.25556°W |
| Cod OS | NS5890764723 |
| Hyd | 126 metr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
| Manylion | |
Mae Pont Grog Heol De Portland yn bont grog ar gyfer cerddwyr ar draws Afon Clud yn Glasgow, yr Alban. Mae'n cysylltu canol y ddinas â Laurieston a’r Gorbals.
Gwnaethpwyd y bont gyda haearn bwrw a tyrrau tywodfaen.[1] Mae’n 414 troedfedd o hyd ac 13 troedfedd o led. Adeiladwyd y bont rhwng 1851 a 1853, gan ddisodli pont bren dros dro a gynlluniwyd gan Robert Stevenson.[2] Enwau eraill y bont yw Pont Plas Carlton a Pont Grog Glasgow. Mae’n adeilad rhestredig gradd A.[3]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Canmore". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-30. Cyrchwyd 2020-12-22.
- ↑ Gwefan The Glasgow Story
- ↑ Gwefan Historic Environment Scotland
