Plethwaith
Enghraifft o'r canlynol | defnydd adeiladu |
---|---|
Math | natural building material |
Deunydd | branch, Boncyff, withy, pren |
Dechreuwyd | c. 18 g CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae plethwaith (neu bangorwaith) yn ddeunydd adeiladu ysgafn a wneir trwy gydblethu estyll neu ganghennau hollt (neu gyfan weithiau) â pholion fertigol i ffurfio dellt. Fe'i defnyddiwyd yn gyffredin i wneud ffensys a chlwydi ar gyfer amgáu caeau a da byw. Gellir creu'r plethwaith fel paneli rhydd, wedi'u slotio rhwng fframio pren i wneud paneli; neu gellir ei wneud yn ei le er mwyn ffurfio ffens neu wal gyfan. Mae'r dechneg yn mynd yn ôl i'r cyfnod Neolithig.
Mae plethwaith ffurfio is-strwythur ‘plethwaith a dwb’, sef deunydd adeiladu cyfansawdd a ddefnyddir er mwyn gwneud waliau[1]. Mae'r mae plethwaith yn cael ei blastro â deunydd gludiog a wneir fel arfer o ryw gyfuniad o bridd gwlyb, clai, tywod, tom anifeiliaid a gwellt. Mae plethwaith a chlai wedi cael ei ddefnyddio ers o leiaf 6,000 o flynyddoedd, ac mae'n dal i fod yn ddeunydd adeiladu pwysig mewn sawl rhan o'r byd. Mae'r broses hon yn debyg i ais a phlastr modern, deunydd adeiladu cyffredin ar gyfer arwynebau waliau a nenfydau. Mae llawer o adeiladau hanesyddol yn cynnwys adeiladu plethwaith a chlai, ac mae'r dechneg yn dod yn boblogaidd eto mewn ardaloedd mwy datblygedig fel techneg adeiladu gynaliadwy.
Mae'r dinas Bangor wedi'i enwi ar ôl y bangor (ffens bleth) a arferai amgáu eglwys gadeiriol y ddinas.[2]
Dull adeiladu
[golygu | golygu cod]Yn gyntaf caiff cyfres o dyllau wedi'u gwasgaru'n gyfartal eu drilio ar hyd canol wyneb mewnol y pren uchaf. Nesaf, mae rhych di-dor yn cael ei thorri ar hyd canol wyneb mewnol y pren isaf. Yna mewnosodir ffyn pren main fertigol, ac mae'r rhain yn dal y panel cyfan o fewn y ffrâm bren. Nesaf gosodir y ffyn yn y tyllau ac yna'n cael eu gwthio i mewn i'r rhychau. Caiff eu gosod gyda bylchau digonol i blethu'r canghennau llorweddol hyblyg, a chaiff eu hychwanegu nesaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dictionary of architecture & construction. Cyril M. Harris (arg. 4ydd arg.). Efrog Newydd: McGraw-Hill. 2006. ISBN 978-1-84972-524-8. OCLC 550477891.CS1 maint: others (link)
- ↑ A dictionary of British and Irish history. Robert Peberdy, P. J. Waller. Hoboken, NJ. 2021. ISBN 978-1-119-36748-2. OCLC 1151513661.CS1 maint: others (link)