Ais a phlaster

Oddi ar Wicipedia
Ais a phlaster
Enghraifft o'r canlynoldefnydd adeiladu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ais a phlaster wedi'i ddatgelu o dan bapur wal. Daw'r enghraifft o dy a adeiladwyd rhwng 1884 a 1922.

Proses adeiladu ar gyfer rhoi gorffeniad ar waliau mewnol a nenfydau yw ais a phlastr (hefyd dellt a phlaster).

Gwnaed defnydd helaeth o ais a phlaster yng Nghymru cyn cyflwyno plastrfwrdd yn y 1930au. Byddai ais pren caled hollt o wahanol hydoedd a meintiau yn cael eu defnyddio yn aml. Roedd hollti'r pren gyda'r graen, yn hytrach na'i lifio, yn well o ran cryfder a gwydnwch. Byddai mat o gyrs hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ais. Mae'r dull hwn yn deillio o dechneg gynharach bangorwaith a dwb.[1]

Roedd ais a phlaster yn ddefnyddiol, ac yn fwy addas na phlastrfwrdd ar gyfer siapiau anarferol neu addurniadol. Mae'n well hefyd na phlastr calch am ynysu swn ac roedd nenfydau ais a phlaster yn cyfrannu'n fawr at atal tan rhag ymledu mewn adeiladau hanesyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Paul Oliver, Built to Meet Needs: Cultural Issues in Vernacular Architecture (Amsterdam: Architectural Press, 2006)