Plas Cilgwyn

Oddi ar Wicipedia
Plas Cilgwyn
Mathplasty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1870s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Cilgwyn Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.049555°N 4.456886°W Edit this on Wikidata
Map

Plasdy a godwyd yn niwedd yr 1870au ydy Plas Cilgwyn, yng nghymunedau Llandyfriog ac Adpar, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion. Cafodd ei godi gan deulu Fitzwilliam yn lle'r hen neuadd a safodd yma. Prynwyd y grisiau yn Arddangosfa Paris ym 1875 a'i gludo yma i Adpar mewn llong. Codwyd y plasdy oddeutu'r grisiau derw, trillawr. Mae'n debyg mai o chwarel Cilgerran, gerllaw, y daeth y garreg, gyda thenantiaid y teulu'n cael eu gorfodi i'w cludo. Mae'r Afon Ceri'n rhedeg drwy'r gerddi.[1]

Ceir hen luniau o dŵr mawreddog, plwm uwch ben y drws ffrynt, ond fe'i dymchwelwyd oherwydd ei fod yn rhy drwm i'r waliau ei gynnal. Yn yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y plasdy fel ysbyty ar gyfer milwyr Americanaidd. Gan fod y teulu'n ddirwestwyr, ni cheir namyn un seler, lle safodd y boiler glo. Saif yr Hen Gastell gerllaw lle dywedir i Ddraig Goch Cymru gael ei geni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ["Walesdirectory.co.uk; adalwyd 15/02/2012; (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-10. Cyrchwyd 2012-02-15. Walesdirectory.co.uk; adalwyd 15/02/2012; (Saesneg)]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.