Plant Mewn Angen
Apêl elusennol flynyddol Prydeinig ydy Plant Mewn Angen ac fe'i drefnir gan y BBC. Pob bwyddyn ers 1980, mae'r BBC wedi neilltuo un noson o raglenni ar ei brif sianel, BBC 1, ar gyfer dangos digwyddiadau wedi'u hanelu at godi arian. Mae darllediad y BBC hefyd yn ymestyn ar draws sianeli cenedlaethol eraill a lleol y BBC. Cofrestrwyd Plant Mewn Angen fel elusen yn 1989, rhif yr elusen ydy 802052.
Dosberthir yr holl arian a gasglir gan Plant Mewn Agen i elusennau bychain plant.
Hanes
[golygu | golygu cod]Darlledwyd apêl cyntaf y BBC yn 1927, ar ffurf darllediad radio pum munud o hyd ar y radio ar ddiwrnod Nadolig. Cododd yr apêl £1,143, sy'n cyfateb i tua £27,150 erbyn heddiw. Crewyd y mascot, yr Arth Pudsey, gan Joanna Ball. Enwyd yr arth ar ôl ei thref enedigol, Pudsey, yng Ngorllewin Swydd Efrog, ble roedd ei thaid yn faer.[1]
Gelwyd yr apêl deledu cyntaf yn 1955, yn Children's Hour Christmas Appeal, cyflwynwyd y raglen gan Sooty a Harry Corbett. Darlledwyd yr apêl ar y Nadolig ar y teledu a'r radio hyd 1979 gyda sêr megis Terry Hall, Eamonn Andrews, Leslie Crowther a Michael Aspel yn cyflwyno. Yn ystod yr adeg hwnnw, codwyd cyfanswm o £625,836. Ymddangosodd Terry Wogan yn gyntaf ar yr apêl pum munud yn 1978, ac unwaith eto yn 1979.
Fformat newydd: Telethon
[golygu | golygu cod]Darlledwyd yr apêl ar ffurf telethon am y tro cyntaf yn 1980, gan i'r raglen bara noswaith gyfan, gyda'r bwriad o godi arian. Cyflwynwyd y rhaglen ar ei fformat newydd gan Terry Wogan, Sue Lawley a Esther Rantzen, a gwelodd gynydd mawr yn roddiannau'r gynulleidfa: codwyd £1 miliwn y flwyddyn honno. Ers hynny, mae'r fformat telethon wedi cael ei chadw gan dyfu i gyfuno darllediadau eraill ar y radio ac ar y wê.
Cymerodd apêl 2003 le ym mis Tachwedd, a chodwyd £15 miliwn ar y noson, £30 miliwn yn gyfan gwbl wedi i'r holl roddiannau gael eu casglu. Cyflwynwyd unwaith eto gan Terry Wogan, ac ymunodd Gaby Roslin gydag ef ar y sgrin. Yn 2004, cynhaliwyd yr apêl ar yr 19 Tachwedd a chyflwynwyd hi fel 25ed pen-blwydd Plant Mewn Angen. Codwyd £17m ar y noson. Cyflwynwyd apêl 2005 gan Terry Wogan, Fearne Cotton a Natasha Kaplinsky, gyda pherfformiadau arbennig gan David Tennant a Billie Piper, sêr Doctor Who. Curodd yr apêl gyfanswm y flwyddyn gynt o ychydig, gan godi £17,235,256.
Ymryson
[golygu | golygu cod]Yn 2007, adroddwyd mai Terry Wogan oedd yr unig seren i dderbyn tâl am ei gyfranogaeth, gan iddo dderbyn tâl pob blwyddyn ers 1980 (£9,065 yn 2005). Er hyn, mae Wogan wedi dweud y byddai'n ddigon hapus i gyflwyno'r rhaglen am ddim, ac nad oedd erioed wedi gofyn am dâl. Datganodd y BBC nad oedd tâl erioed wedi cael ei drafod. Telir Wogan o goffau'r BBC, ac nid o arian yr apêl,[2] does dim record fod Wogan erioed wedi ad-dalu dim.
Digwyddiadau nodedig
[golygu | golygu cod]- Drwmathon Owain Wyn Evans, Tachwedd 2021
Senglau Swyddogol
[golygu | golygu cod]- 1997 Lou Reed gyda amryw eraill - Perfect Day (1)
- 1998 Denise Van Outen & Johnny Vaughan - Especially for You (3)
- 1999 Martine McCutcheon - Love Me (6)
- 2000 S Club 7 - Never Had a Dream Come True (1)
- 2001 S Club 7 - Have You Ever (1)
- 2002 Will Young - You & I (2)
- 2003 Shane Richie - I'm Your Man (2)
- 2004 Girls Aloud - I'll Stand By You (1)
- 2005 Liberty X - A Night to Remember (6)
- 2006 Emma Bunton - Downtown (3)
- 2007 Spice Girls - Headlines (Friendship Never Ends)
- 2008 McFly - Do Ya/Stay With Me[3] (18)
- 2009 Peter Kay's Animated All Star Band - The Official BBC Children in Need Medley[4]
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-05. Cyrchwyd 2007-11-07.
- ↑ Wogan charity fee defended by BBC BBC 4 Mawrth 2007
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-07. Cyrchwyd 2009-11-23.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/pudsey/news/news201109.shtml