Neidio i'r cynnwys

Pirahã (iaith)

Oddi ar Wicipedia
Pirahã
xapaitíiso
Ynganiad IPA [ʔàpài̯ˈtʃîːsò]
Siaredir yn Brasil
Cyfanswm siaradwyr 250–380
Teulu ieithyddol Mura
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3 myp
Wylfa Ieithoedd

Iaith enedigol pobl Pirahã yn yr Amazonas, Brasil ydy Pirahã (neu Pirahá, Pirahán), neu Múra-Pirahã. Mae'r bobl Pirahã'n byw ar hyd Afon Maici, sy'n llifo i mewn i Afon Amazonas.

Mae'r Pirahã'n unig dafodiaith yr iaith Mura sydd wedi goroesi, oherwydd fod gweddill bobl Mura yn siarad Portiwgaleg. Mae perthynasau posibl, fel yr iaith Matanawi, hefyd wedi darfod; felly mae Pirahã'n iaith ynysig, gan nad oes ganddi unrhyw gysylltiad ag ieithoedd byw eraill. Amcangyfrifir fod ganndi rhwng 250 a 380 o siaradwyr yn unig.[1] Dydy hi ddim mewn perygl enbyd o ddifodiant, gan ei bod yn iaith fyw a'i siaradwyr, gan fwyaf, yn uniaith.

Mae'r iaith Pirahã'n fwyaf enwog fel pwnc o amryw honiadau dadleuol;[1] er enghraifft, bod ganddi brawf ar gyfer y ddamcaniaeth Sapir-Whorf.[2] Mae'r ddadl yn cael ei chymhlethu gan fod dysgu'r iaith mor anodd, felly mae'r nifer o ieithyddion sydd â phrofiad maes (field experience) ynddi yn fach iawn.

Dadl ddiweddar

[golygu | golygu cod]

Mae Daniel Everett, drwy lawer o bapurau ac un llyfr am yr iaith, wedi priodoli nodweddion diddorol iddi. Dywed fod ganddi:

  • un o'r rhestrau lleiaf o ffonemau yn unryw iaith a astudiwyd, a gradd o amrywiad aloffonig gymharol uchel;
  • ddwy sain anghyffredin iawn, [ɺ͡ɺ̼] a [t͡ʙ̥];
  • strwythur y cymalau sy'n hynod o gyfyngedig, nad yw'n caniatáu recursion; hynny yw, dydy hi ddim yn bosibl dweud, er enghraifft, "Dywedodd Iago y meddyliodd Glynn fod Mari'n credu fod Gareth yn y ddinas";
  • dim geiriau i siarad am liwau, heblaw am eiriau ar gyfer golau a thywyll (er bod hyn yn cael ei ymddadlau gan Baul Kay ac eraill);
  • ragenwau personol sydd pob un wedi'u benthyg o'r Nheengatu, lingua franca wedi'i sylfaenu ar yr iaith Tupi.

Mae'r bosbl chwibanu, hymian a chanu'r Pirahã. Mewn gwirionedd, mae Keren Everett yn credu fod yr ymchwil cyfredol ar yr iaith yn methu i ei deall, gan nad o'n canolbwyntio digon ar fydryddiaeth yr iaith.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Nevins, Andrew, David Pesetsky a Cilene Rodrigues (2009). "Piraha Exceptionality: a Reassessment Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback", Language, 85.2, tud. 355–404.
  2. Michael C. Frank, Daniel L. Everett, Evelina Fedorenko ac Edward Gibson (2008), Number as a cognitive technology: Evidence from Pirahã language and cognition Archifwyd 2013-01-04 yn archive.today. Cognition, Volume 108, Issue 3, Medi 2008, tud. 819–824.
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.