Pibydd torchog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pibydd Torchog)
Pibydd torchog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Philomachus
Merrem, 1804
Rhywogaeth: P. pugnax
Enw deuenwol
Philomachus pugnax
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Pibydd torchog (Philomachus pugnax) yn aelod canolig o ran maint o deulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd torchog yn nythu mewn corsydd a gwlypdiroedd eraill yng ngogledd Ewrop a Rwsia. Mae'n aderyn mudol, yn gaeafu yn ne Ewrop, Affrica ac India. Gallant fod yn niferus iawn mewn rhai gwledydd yn y gaeaf, er enghriafft adroddwyd am haid o dros filiwn o adar yn Senegal.

Maent yn nythu ar lawr, gan ddodwy 3-4 o wyau. Cyn nythu mae'r ceiliogod yn arddangos eu hunain, gan ddangos eu torchau, ac weithiau'n neidio i'r awyr. Eu prif fwyd yw pryfed ac ymlusgiaid y maent yn eu pigo o dir gwlyb. Mae'r ceiliogod gryn dipyn yn fwy na'r ieir, 29–32 cm o hyd a 54–60 cm ar draws yr adenydd, tra mae'r ieir yn 22–26 cm o hyd a 46–49 cm ar draws yr adenydd.

Yn y gaeaf mae'r ddau ryw yn liw llwyd, a'r ffordd orau i'w hadnabod ymysg rhydyddion eraill yw siâp anarferol yr aderyn - mae'r pen yn edrych fel petae'n rhy fach i'r corff. Yn y tymor nythu mae'r ceiliogod yn llawer mwy lliwgar, a gall y dorch fod yn ddu, yn frowngoch neu'n wyn.

Nid yw'r Pibydd torchog yn nythu yng Nghymru. Gellir gweld niferoedd bychan yn y gaeaf a'r gwanwyn, ac yn enwedig yn yr hydref.

Ceiliog yn y tymor nythu
Calidris pugnax pugnax