Phaldut Sharma

Oddi ar Wicipedia
Phaldut Sharma
GanwydPhaldut Sharma Edit this on Wikidata
10 Gorffennaf 1989 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor a dawnsiwr Cymreig yw Phaldut Sharma, gelwir weithiau wrth yr enw Saesneg, Paul Sharma. Mae'n adnabyddus am chwarae rhan Achmed yn Gavin & Stacey ac AJ Ahmed yn EastEnders. Ganed yn 1981 a'i fagu yng Nghasnewydd i deulu o dras Hindŵeg-Guyana a hyfforddodd fel actor yn Ysgol Actio Guilford.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Teledu a ffilm[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Sharma Vinnay Ramdas yn Casualty ac yna Damon Lynch yn 2011,[2] Rajiv yn y ddrama gomedi Roger Roger a Paul yn Meet the Magoons.[3] Mae hefyd wedi ymddangos mewn penodau o Life on Mars, Dalziel and Pascoe a chyfresi dydd y BBC Doctors. ymddangosodd hefyd mewn un bennod o Ultimate Force Series 4 Episode 3 “the Dividing line”.

Roedd Sharma ym mhennod gyntaf y comedi DU The Office, yn chwarae Sanj, ac roedd yn gyn-ddyweddi Stacey Shipman (Joanna Page), Achmed, yn Gavin & Stacey. Yn 2009, ymddangosodd Sharma fel cenedlaetholwr Hindŵaidd Harish Dhillon mewn pennod o Spooks. Yn 2012, cafodd Sharma ei chast yn EastEnders fel brawd Masood Ahmed (Nitin Ganatra) AJ, cymeriad rheolaidd.[4] Gadawodd yr opera sebon yn 2014.[5] Ymddangosodd hefyd ym mhennod chwech o Hunted.

Yn 2015, rhyddhaodd Sharma I Gotta Be Me - comedi gwe deg rhan lle mae'n chwarae rhan Paul Shah - cymeriad lled-hunangofiannol yn seiliedig ar ei brofiad fel act deyrnged i Sammy Davis Junior.[6] Ymddangosodd hefyd fel Leigh ym mhenodau pedwar a phump o Cucumber. Yn 2019, ymddangosodd fel Tom, tad Sophie sy'n dod yn gyfaill i'r cymeriad teitl yn nhymor 1 Hanna.

Yn 2021, ymddangosodd Sharma fel DCI Ram Sidhu yn y bedwaredd gyfres o ddrama ITV Unforgotten.[7] Yn 2023 fe ffilmiodd raglen deledu Men Up y BBC, am y treialon clinigol cyntaf ar gyfer y cyffur Viagra a gynhaliwyd yn Abertawe ym 1994.[8] Mae'n chwarae Peetham "Pete" Shah.[9]

Llwyfan[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Sharma ran Sammy Davis Jr yng nghynhyrchiad y West End o Rat Pack Confidential yn 2003.[9]

Rhwng mis Medi a mis Hydref 2010, ymddangosodd yn Boiling Frogs Factory Company Theatre yn Southwark Playhouse, Llundain.[10][11]

Magwraeth Casnewydd[golygu | golygu cod]

Ganed Phaldut yn Llundain ond symudodd ei deulu i ardal Basaleg yng Nghasnewydd pan oedd yn chwech oed.[1]

Mewn cyfweliad i'r Wales Online dywed i'w fagwraeth yng Nghasnewydd fod yn ddylanwad bositif a'r bobl yn gyfeillar, er, bod "bod yn Indiaid Asiaidd yng Nghymru, Casnewydd yn arbennig, nôl yn y ’70au yn golygu ein bod ni’n lleiafrif o fewn lleiafrif o fewn lleiafrif arall." Yn fachgen ifans dylanwadwyd arno gan Elvis Presley a Michael Jackson ac roedd yn hoff o ddawnsio gan gystadlu mewn cystadlaethau lleol. Atogiodd iddo gofio "mynd i fy nghystadleuaeth gyntaf yng Nghanolfan Gymunedol y Graig a gorfod dweud celwydd a dweud wrth fy mam mai parti pen-blwydd ffrind ydoedd mewn gwirionedd."

Aeth ymlaen wedi ysgol i astudiodd dawns yng Coleg Pontypwl cyn mynd ymlaen at Ysgol Actio Guilford yn Llundain.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "EastEnders' Phaldut Sharma says growing up in Newport helped him become a star". Wales Online. 2 Mawrth 2013.
  2. Casualty semi-regulars
  3. Meet the Magoons episode guide on Channel 4
  4. Kilkelly, Daniel (1 June 2012). "'EastEnders' casts Masood's brother AJ". Digital Spy. Hearst Magazines UK. Cyrchwyd 1 June 2012.
  5. Klompus, Jack (24 September 2013). "'EastEnders' axes four stars: AJ, Poppy, Carl and Kirsty to leave soap". Digital Spy. Hearst Magazines UK. Cyrchwyd 24 September 2013.
  6. "Home". igottabeme.net.
  7. Cripps, Charlotte (3 March 2021). "Unforgotten, series 4 episode 2 recap: Could Cassie and Sunny's new case involve corrupt coppers?". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2022. Cyrchwyd 6 April 2021.
  8. Ritman, Alex (March 1, 2023). "Viagra Trial Drama 'Men Up' Coming to BBC From Russell T. Davies, 'Industry' Writer, 'It's a Sin' Producer". Hollywood Reporter. Cyrchwyd May 24, 2023.
  9. Colderick, Stephanie (2023-09-14). "BBC releases new pictures of Wales-filmed drama Men Up". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-14.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]